UAC yn mynegi pryderon dybryd yn dilyn datganiad Cyllideb yr Hydref y DU

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon dybryd yn dilyn y cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys yng Nghyllideb yr Hydref (30.10.24) y bydd rhyddhad treth ar eiddo amaethyddol yn cael ei ddiwygio o 2026, gan adael dyfodol llawer o ffermydd Cymru yn y fantol.

Yn ystod y Gyllideb, cyhoeddwyd y bydd y rhyddhad treth o 100% yn dod i ben i fusnesau a thir gwerth dros £1 miliwn

yn y sector amaethyddol o Ebrill 2026. Bydd y gyfradd gyfredol o ryddhad 100% yn parhau ar gyfer tir amaethyddol a busnesau o dan £1 miliwn, ond ar gyfer asedau dros £1 miliwn, bydd treth etifeddiant yn berthnasol gyda rhyddhad o 50%, ar gyfradd weithredol o 20%.

Mae’r newid hwn yn debygol o effeithio ar y rhan fwyaf o ffermydd teuluol yng Nghymru.  Mae UAC eisoes wedi rhybuddio y byddai newidiadau i’r rhyddhad treth ar eiddo amaethyddol yn cael effaith ar ddyfodol ffermydd teuluol a chymunedau gwledig - yn ogystal â chael effaith andwyol ar fusnesau a chyflogwyr sy’n gysylltiedig ȃ’r diwydiant.

Mae maint ffermydd yng Nghymru oddeutu 120 erw ar gyfartaledd – gydag amcangyfrifon ceidwadol hyd yn oed o werth tir ac adeiladau yn rhoi gwerth asedau o dros £1 miliwn  i’r rhan fwyaf o ffermydd.

Mae’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol wedi chwarae rhan hanfodol o fewn y diwydiant ers blynyddoedd, gan sicrhau nad yw’r rhai sy’n etifeddu daliadau amaethyddol yn cael eu llethu gan drethi pan fydd ffermydd teuluol yn trosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf. 

Mae UAC yn aros am fanylion pellach am y Rhyddhad Eiddo Amaethyddol ac am oblygiadau’r cyhoeddiad mewn perthynas â chyllidebau’r Llywodraeth, ond mewn cyfnod heriol i ffermio yng Nghymru, bydd y newyddion hyn yn ychwanegu at yr ansicrwydd a wynebir gan fusnesau amaethyddol sy’n gwneud eu gorau glas i gynhyrchu bwyd a diogelu’r amgylchedd.

Dylai aelodau sy'n pryderu am y newid hwn gysylltu â'u swyddfa UAC sirol am gyngor gan ein partneriaid, RDP Law.