Effaith y gyllideb ar amaethyddiaeth

“Amddiffyn pobl sy’n gweithio” -  dyna linell a glywyd dro ar ôl tro yn y cyfnod cyn, ac yn ystod y datganiad Cyllideb hirddisgwyliedig yr wythnos diwethaf. Fodd bynnag, wrth i’r llwch setlo ar gyhoeddiad Rachel Reeves ar Noson Calan Gaeaf, i lawer o ffermwyr diwyd Cymru, mae canlyniadau’r Gyllideb yn debygol o fod yn fwy o gast na cheiniog yn y pen draw.

Wrth galon pryderon o’r fath mae’r newid sylweddol i’r dreth etifeddiaeth.  “Sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu ffermydd teuluol bach” – dyna oedd addewid y Canghellor gerbron y blwch dogfennau – ond mewn gwirionedd, mae newidiadau o’r fath wedi syfrdanu’r gymuned amaethyddol.

Mae rhyddhad o dreth etifeddiant drwy’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol wedi cefnogi gwead ein cymunedau gwledig ers tro byd - gan gynorthwyo a chymell pasio ffermydd teuluol yng Nghymru ymlaen o un genhedlaeth i’r nesaf.  Mae hyn wedi sicrhau nad yw’r rhai sy’n etifeddu daliadau amaethyddol yn cael eu llethu gan drethi - gan osgoi  cael effaith andwyol ar fusnesau gwledig a chyflogaeth, ac yn hanfodol, diogelu ein gallu ehangach i gynhyrchu bwyd yng Nghymru a’n cyflenwad bwyd.

Oherwydd pwysigrwydd allweddol y Rhyddhad Eiddo Amaethyddol mae UAC, ers tro byd, wedi gwrthwynebu unrhyw newidiadau i’w strwythur - safbwynt a leisiwyd yn flaenorol yn Nhachwedd 2023 gan yr aelod Llafur Steve Reed, sydd bellach yn Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA,  a wfftiodd y syniad o ddiddymu’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol ar gyfer tir ffermio, lai na blwyddyn yn ôl.

Fodd bynnag, serch y sicrwydd a roddwyd yn flaenorol, yn sgil y Gyllideb bydd y gyfradd 100% o ryddhad treth yn dod i ben o Ebrill 2026 ar gyfer busnesau a thir gwerth dros £1 miliwn - gyda threth etifeddiant yn cael ei chyflwyno wedi hynny ar gyfradd weithredol o 20%.

Cawsom ein sicrhau gan y  Canghellor na fyddai tri chwarter y ffermydd yn cael eu heffeithio gan y newid, ond mae UAC yn rhannu pryderon ehangach y diwydiant y gallai’r newidiadau hyn danseilio dyfodol ein ffermydd teuluol, ein cymunedau gwledig, a’r angen ehangach i ddiogelu’n cyflenwad bwyd.

Er bod miliwn o bunnau’n ymddangos yn swm enfawr i rai y tu allan i’r diwydiant, i nifer o ffermydd yng Nghymru, mi allai hyd yn oed amcangyfrif ceidwadol o werth cyfunol yr holl dir a’r seilwaith osod y fferm uwchlaw’r trothwy o £1m yn hawdd.  O ganlyniad, i nifer o deuluoedd ffermio, sy’n gyfoethog o ran asedau, ond sy’n gweithredu yn ôl meintiau elw bach, mae’n ddigon posib na fydd unrhyw ddewis ond chwalu’r fferm deuluol er mwyn talu trethi etifeddiant o’r fath.

Mi all goblygiadau emosiynol, economaidd a chymdeithasol y posibilrwydd o golli ein ffermydd teuluol yng Nghymru fod yn sylweddol, a bydd yn cael effaith go iawn ar y gallu i gynhyrchu bwyd, a fydd yn effeithio ar brisiau bwyd.  Bydd UAC felly yn parhau i herio’r newid hwn i’r dreth ac yn lobïo Llywodraeth y DU i gael mwy o eglurder  ar newidiadau sydd i’w gweld yn ddryslyd, a heb ddigon o feddwl y tu ôl iddynt.

Wrth i gyhoeddiad yr wythnos diwethaf dynnu sylw ffermwyr yn anorfod at gynllunio olyniaeth a diogelu ar gyfer y dyfodol, mae’n werth pwysleisio bod yna ddulliau eraill o gynllunio ystâd  – ac mae arweiniad a chymorth ar gael yn hwylus i ffermwyr gan bartneriaid UAC.

Fodd bynnag, mewn blwyddyn sydd eisoes wedi gweld anniddigrwydd ar raddfa eang a’r morâl yn gostwng o fewn y sector amaethyddol, mae’r ymyrraeth ddiweddaraf hon o du’r Llywodraeth yn bwysau ychwanegol ar gefn diwydiant sydd eisoes mewn cythrwfl.