Tynnu sylw AS at bryderon ynghylch Parc Cenedlaethol arfaethedig

Cafodd swyddogion o Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn gyfarfod yn ddiweddar ag Aelod Seneddol Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden AS i drafod pryderon ynghylch Parc Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru, a all gynnwys cyfran helaeth o ogledd Powys.

Yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym Mhistyll Rhaeadr ger Llanrhaeadr-ym-mochnant, bu  Swyddog Gweithredol Sirol UAC, Emyr Wyn Davies a Chadeirydd Sirol UAC, Wyn Williams, yn esbonio  nifer o bryderon i Mr Witherden ynghylch datblygiad arfaethedig y Parc Cenedlaethol. Roedd y gwrthwynebiadau hyn yn cynnwys biwrocratiaeth ychwanegol a rheoliadau cynllunio, ac yn hollbwysig, y pryderon cynyddol a leisiwyd yn lleol ynghylch y pwysau y gallai’r dynodiad ei roi ar y seilwaith a chymunedau lleol.

Mae’r awydd i greu’r Parc Cenedlaethol yn dilyn ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Pe byddai’n cael ei sefydlu, hwn fyddai’r pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru, a’r cyntaf ers 1957.

Mae’r cynigion ar hyn o bryd yn mynd trwy ail rownd o ymgynghori o dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r ffiniau arfaethedig yn ymgorffori Llyn Efyrnwy a Dyffryn Tanat, yn ogystal â threfi a phentrefi megis Llanfyllin a Meifod, gan ymestyn mor bell i’r gogledd â Threlawnyd yn Sir y Fflint.

Yn y cyfarfod ym Mhistyll Rhaeadr, cyfeiriwyd at bryderon ynghylch y gor-dwristiaeth presennol ar y safle – gyda’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr dros fisoedd yr haf yn aml yn arwain at oedi sylweddol  a rhwystrau traffig yn lleol – a oedd yn cael effaith andwyol ar drigolion lleol a ffermwyr. Lleisiwyd pryderon y byddai dynodi’r ardal yn Barc Cenedlaethol yn debygol o gynyddu nifer y twristiaid ymhellach, gan wneud y broblem yn waeth.

Roedd UAC yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gwrdd â Steve Witherden AS i drafod y pryderon niferus sydd wedi codi’n lleol ynghylch dynodi ardal gogledd-ddwyrain Cymru yn barc cenedlaethol - a allai ymgorffori cyfran fawr iawn o Sir Drefaldwyn.

Er bod UAC yn croesawu ymwelwyr ac yn cydnabod cyfraniad allweddol twristiaeth i’r economi leol, mae’n amlwg mai ychydig iawn o awydd sydd yna yn lleol am y dynodiad hwn.

Mae rhannau o Eryri a Bannau Brycheiniog eisoes wedi gweld yr effaith niweidiol y gall gor-dwristiaeth ei gael ar gymunedau lleol – o fiwrocratiaeth ychwanegol a chyfyngiadau cynllunio, straen cynyddol ar gyfleusterau a seilwaith sydd eisoes yn crebachu, i gynnydd mawr ym mhrisiau tai. Ar ben hyn, mae cost mor enfawr ar adeg pan mae cymaint o wasanaethau cyhoeddus eraill dan fygythiad yn codi cwestiynau sylweddol.

Yn dilyn yr ymweliad â Phistyll Rhaeadr, cynhaliwyd cyfarfod rhwng UAC â Steve Witherden AS yn y Wynnstay Arms, Llanrhaeadr-ym-mochnant. Rhoddodd hyn gyfle i ffermwyr a sefydliadau lleol - gan gynnwys y Clybiau Ffermwyr Ifanc - i drafod y cynigion ar gyfer Parc Cenedlaethol ymhellach, yn ogystal â phryderon ehangach, gan gynnwys y newidiadau arfaethedig i’r dreth etifeddiant a amlinellwyd yng Nghyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU.

Cynhaliwyd cyfarfod arall yn Llanrhaeadr-ym-mochnant ar yr un noson, a fynychwyd gan dros 200 o aelodau o’r gymuned leol, yr awdurdod lleol a busnesau – gyda’r mwyafrif helaeth yn gwrthwynebu’r cynigion i ddynodi  Parc Cenedlaethol arall.