UAC yn ymateb i’r amlinelliad diwygiedig o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Ar 25 Tachwedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, ddatganiad ochr yn ochr ag amlinelliad diwygiedig o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a chrynodeb gweithredol o ganfyddiadau’r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon.

Mae llwyth gwaith y tri grŵp rhanddeiliaid dros y misoedd diwethaf wedi bod yn ddwys, wrth i UAC weithio trwy, a chytuno, mewn egwyddor, â dyluniad y Cynllun diwygiedig.  Croesawodd UAC y cydweithio a’r cyfle i ymgysylltu ar y lefel hon, ac mae o’r farn ein bod bellach mewn gwell sefyllfa o ganlyniad i hynny.

Ochr yn ochr â materion eraill pwysig sydd ar y gweill, fel TB gwartheg, y rheoliadau ansawdd dŵr, a rhyddhad o dreth etifeddiaeth, mae diwygio’r Cynllun hwn wedi parhau i fod yn brif flaenoriaeth i UAC, am fod yr Undeb yn llwyr ddeall pa mor bwysig yw cymorth amaethyddol i ddyfodol ein busnesau ffermio, yr economi wledig, a’r gadwyn gyflenwi ehangach yma yng Nghymru.

I grynhoi rhai o’r newidiadau allweddol,  mae’r Rheol Cynllun o 10% o orchudd coed wedi’i ddileu, a’i ddisodli â tharged cynllun cyfan a Gweithred Gyffredinol (UA) ddiwygiedig; mae cyfanswm cyffredinol y nifer o Weithredoedd Cyffredinol wedi’i leihau o 17 i 12, a bydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac ardaloedd sy’n gysylltiedig â hawliau pori tir comin bellach yn gymwys i dderbyn cyfran o’r Taliad Sylfaenol Cyffredinol.

Dim ond nodi diwedd y dechreuad mae’r cyhoeddiad, fodd bynnag, oherwydd mae llawer iawn o fanylion i’w trafod a’u cadarnhau, gyda’r dadansoddiad economaidd a’r asesiadau effaith diweddaraf o bwysigrwydd hanfodol.

Yn ganolog i hyn  mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Taliad Gwerth Cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r gweithredoedd a gyflawnir gan ffermwyr yng Nghymru, sy’n cyfrannu at bob un o 4 amcan Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Gyda dyluniad Cynllun mwy hygyrch a hyblyg yn sgil newidiadau sylweddol - gan gynnwys dileu’r Rheol Cynllun  10% o orchudd coed, a gostyngiad yn y nifer o Weithredoedd Cyffredinol - rhaid sicrhau nawr bod y gyllideb gysylltiedig, a’r fethodoleg dalu, yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd go iawn i ffermydd teuluol yng Nghymru, wrth iddyn nhw wynebu llu o heriau eraill yn ogystal.