O 1 Hydref 2024 mi fydd yn ofyniad cyfreithiol ar bob ceidwad adar yng Nghymru (ar wahân i geidwaid adar anwes heb unrhyw fynediad i’r awyr agored) i gofrestru fel ceidwad adar/dofednod ar Gofrestr Dofednod Prydain.
Bydd y newid hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyfathrebu â phob ceidwad adar yng Nghymru os digwydd bod yna achosion o glefyd adar
, ac yn annog pob ceidwad adar i gofrestru cyn y dyddiad cau.
Bydd gofyn i geidwaid adar adolygu eu data cofrestredig yn flynyddol.
Fel rhan o’r Adolygiad o Rifau Adnabod Daliadau (CPH), bydd yr adolygydd annibynnol yn cael y dasg o ystyried cynnig symlach ar gyfer cofrestru fel ceidwad adar, a fydd yn gwella prosesau olrhain a mapio da byw.
Sut fydd CPH yn effeithio ar y gofynion newydd ar gyfer cofrestru adar?
Gall ceidwaid sydd eisoes â rhif CPH ar gyfer da byw ddefnyddio’r un CPH ar gyfer cofrestru eu hadar. Mi fydd angen i geidwaid sydd heb rif CPH gwblhau’r broses gofrestru drwy gysylltu ag APHA.
I gofrestru ar gyfer rhif CPH ewch i - https://www.gov.uk/guidance/register-as-a-keeper-of-less-