UAC yn croesawu parhad cynlluniau cymorth ac ymarfer cadarnhau data 2025

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r ddarpariaeth o gynlluniau cymorth i helpu i bontio’r bwlch nes bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei roi ar waith, yn ogystal â pharhad mawr ei angen Cynllun y Taliad Sylfaenol, fel y bu’r Undeb yn lobïo amdano, i roi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol yng Nghymru.

Bydd Cynllun Cynefin Cymru unwaith eto ar agor ar gyfer ceisiadau gan ffermwyr sydd ag ardaloedd wedi’u nodi fel cynefin ar eu tir.  Gellir ymestyn cytundebau Tir Comin Cynllun Cynefin Cymru, mae darpariaethau Cyswllt Ffermio wedi’u hymestyn, a bydd y Taliadau Cymorth Organig yn parhau yn 2025

.  Bydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig newydd yn cynorthwyo partneriaethau i ddarparu atebion dalgylch sy’n ‘seiliedig ar natur’ dros y tair blynedd nesaf.

Bydd ymarfer cadarnhau data gwirfoddol yn cael ei lansio a’i redeg tan 6 Rhagfyr 2024.  Y nod yw caniatáu i ffermwyr gadarnhau'r math cywir o gynefin, yr ardal a’r gorchudd coed ar eu ffermydd.

Bydd swyddfeydd lleol UAC yn cynorthwyo ffermwyr gyda’r broses hon, ac anogir aelodau i gynnal yr ymarfer cadarnhau data yn yr hydref fel paratoad ar gyfer y Ffurflen Gais Sengl a Chynllun Cynefin Cymru  2025.  Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio nad yw cadarnhau (neu ddiwygio) ardaloedd cynefin ar ffermydd yn ddatganiad ar gyfer cynllun, nac yn ymrwymiad ar hyn o bryd i reoli’r cynefin hwnnw yn unol â chyfarwyddiadau’r cynllun.

Er bod UAC wedi bod yn hynod feirniadol o faterion mapio Cynllun Cynefin Cymru a’r cyfraddau tâl sylweddol is, mae’r Undeb yn croesawu’r bwriad i barhau i ddefnyddio RPW Ar-lein ar gyfer yr ymarfer mapio hwn.

Mae hyn oherwydd y pryderon ynghylch costau posib gorfod cynnal arolwg corfforol o ffermydd unigol, a fyddai wedi lleihau yn sylweddol y cymorth ariannol fydd ar gael i ffermwyr yn y dyfodol.  Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn hanfodol bod ffermwyr sy’n rheoli eu tir ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn derbyn tâl teg am eu hymrwymiad, sy’n uwch na’r incwm a gollir a’r costau a wynebir, a rhaid i’r gyllideb a ddyrannir ar gyfer y cynlluniau hyn adlewyrchu hynny.

Bydd UAC yn parhau i weithio drwy elfennau o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a hynny fel aelod o Fwrdd Crwn, a grwpiau Dal a Storio Carbon a Swyddogion Llywodraeth Cymru.  Mae UAC yn rhannu gweledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet o sicrhau diwydiant ffermio cynaliadwy -  sy’n gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair - ac sy’n parhau i gynhyrchu bwyd yn ôl y safonau uchaf, gan gefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a’r Gymraeg.