Cynllun newydd i adfer y diwydiant coedwigaeth wedi agor

Mae Cynllun Adfer y Diwydiant Coedwigaeth, sef cynllun buddsoddi cyfalaf gwerth £1.5 miliwn, sy’n anelu at gynyddu capasiti o fewn y sector coedigaeth fel rhan o’r Rhaglen Goedwig Genedlaethol, ar agor erbyn hyn ar gyfer ceisiadau.

Gobeithir y bydd y cynllun yn helpu’r rhai sydd wrthi’n cynaeafu a/neu’n tyfu coed i’w plannu yng Nghymru i symud tuag at adferiad gwyrdd.

Prif nod y cynllun yw cynyddu gallu planhigfeydd coed i gyflenwi coed i’w plannu. Bydd cymorth ar gael hefyd ar gyfer:

  • Cyfarpar paratoi’r tir
  • Cyfarpar gwaith diogelwch coed ar gyfer coed sydd wedi’u heffeithio gan Glefyd Coed Ynn
  • Cyfarpar neu dechnoleg briodol ar gyfer cynaeafu pren sy’n hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o reoli coedwigoedd a sicrhau cydnerthedd ein hadnoddau naturiol.

Gall prosiectau cymwys hawlio uchafswm grant o 200,000 Ewro.

Mae’r cynllun ar agor tan 18 Hydref 2020 ac mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

 

FUW yn atgoffa aelodau i storio gwrtaith amoniwm nitrad yn ddiogel

Mae FUW yn atgoffa pob ffermwr sy’n storio ac yn defnyddio gwrtaith amoniwm nitrad i wneud hynny’n ddiogel ar ôl i 2,750 tunnell oedd yn cael ei storio’n anniogel achosi ffrwydrad mawr yn Beirut.

Mae amoniwm nitrad wedi’i ychwanegu wrth gynhyrchu gwrtaith yn y DU ers dros ganrif, ac er bod meintiau mawr ohono’n cael eu mewnforio o’r UE erbyn hyn, mae’r holl wrtaith sydd ar werth yn y DU dan reoliadau llym fel rhan o Gynllun Sicrwydd y Diwydiant Gwrtaith (FIAS).

Serch hynny, rhaid trafod a storio’r sylwedd yn ddiogel, sy’n gofyn defnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin, megis ei storio’n ddigon pell o sylweddau eraill fflamadwy neu danwydd, ac ysgubo unrhyw sylwedd a ollyngir yn ddamweiniol.

Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) wedi paratoi cynllun 5 pwynt ar gyfer storio a thrafod gwrtaith. Mae canllawiau llawn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gael yma.

CLlLC am gael eich barn ar Weledigaeth ar gyfer Cefn Gwlad Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, wrthi’n datblygu Gweledigaeth ar gyfer Cefn Gwlad Cymru, sy’n seiliedig ar ddeg thema allweddol.

Fel rhan o’r broses ddatblygu, mae CLlLC am gael eich barn ar yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer cefn gwlad Cymru, yn ogystal â senarios posib a blaenoriaethau polisi yn y dyfodol, drwy’r arolwg hwn (english) (cymraeg). Mae’r arolwg yn cau ar 11 Medi 2020.

Bydd y weledigaeth ar gyfer cefn gwlad hefyd yn cael ei thrafod a’i datblygu drwy Fforwm
Gwledig CLlLC. Bydd y ddogfen derfynol yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer cefn gwlad Cymru yn 2030 ac yn gosod blaenoriaethau mewn ‘Cynllun Adfer Cefn Gwlad’ ar ôl Covid-19.

 

 

Busnes Cymru’n cyhoeddi modiwlau am ddim i gefnogi busnesau

Mae Busnes Cymru’n cynnal modiwlau ar-lein ar hyn o bryd i gynorthwyo unigolion sydd am ffurfio, neu sydd eisoes yn rhedeg, eu busnesau eu hunain. Dylai’r rhai sydd â diddordeb archebu lle drwy ffonio 01745 585025 ac anfonir dolen i’r weminar berthnasol atoch.

Mae’r modiwlau sydd ar ôl yn cynnwys:

Modiwl 3: Cynllunio ar gyfer Bod yn Barod i’r Farchnad
Bydd y weminar hon yn edrych ar ddiben Marchnata wrth ddechrau eich busnes eich hun. Bydd yn archwilio amryw o arfau cynllunio a thactegau marchnata gwahanol, gan eich helpu i osod eich strategaeth. Mi fydd hefyd yn esbonio pa sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu cynllun marchnata cynhwysfawr.
Cynhelir y weminar derfynol hon ar Ddydd Mawrth 1af Medi - 10:30 - 11:30

Modiwl 4: Prisio ar gyfer Elw
Bydd y weminar hon yn ymdrin â hanfodion prisio a strategaethau prisio amrywiol. Mi fydd hefyd yn archwilio sut i osod prisiau cystadleuol a phroffidiol ar gyfer eich cynnyrch a’ch gwasanaethau.
Cynhelir y weminar derfynol hon ar Ddydd Mercher 2il Medi - 10:30 - 11:30

Modiwl 5: Rheoli Eich Cyllideb
Bydd y weminar hon yn eich helpu i ddeall datganiadau ariannol sylfaenol, a bydd yn esbonio sut i gwblhau rhagolwg llif arian a chadw cofnodion o gyllideb eich busnes.
Cynhelir y weminar derfynol hon ar Ddydd Iau 3ydd Medi - 10:30 - 11:30

Modiwl 6: Rheoli’ch Busnes yn Effeithiol
Mae’r modiwl hwn yn esbonio’ch rôl chi fel rheolwr effeithiol a rhai o’r systemau y bydd angen ichi eu sefydlu. Bydd yn eich helpu i ddeall beth mae’n ei olygu i gyflogi pobl, sut i reoli adnoddau’n effeithiol, a sut i gadw rheolaeth ar bethau.
Cynhelir y weminar derfynol hon ar Ddydd Gwener 4ydd Medi - 10:30 - 11:30

 

Canlyniadau cyntaf prosiect ansawdd bwyta cig eidion BeefQ ar gael

Nod BeefQ, sef prosiect Ansawdd Bwyta Cig Eidion a ariannir drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 yw cynyddu ansawdd bwyta a gwerth cynnyrch Cig Eidion Cymreig drwy brofi ac arddangos system well i raddio ansawdd carcasau, sy’n seiliedig ar fodel Safonau Cig Awstralia (MSA).

Fel rhan o’r prosiect, sy’n cael ei gydlynu gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth, a’i gyflawni gyda rhanddeiliaid eraill megis Hybu Cig Cymru, darparwyd cwrs hyfforddiant ar ddechrau 2019 ar asesu ansawdd bwyta a gwyddoniaeth cig, ac mae’r broses o ddatblygu system i raddio ansawdd bwyta yng Nghymru wedi hen sefydlu erbyn hyn. Cynhaliwyd arolwg o 2000 o garcasau cig eidion a gyflwynwyd i’w lladd gyda phroseswyr Cig Eidion Cymreig PGI yn Chwefror ac Awst 2019, a chyflwynwyd is-sampl o’r carcasau hynny i 1200 o ddefnyddwyr mewn 20 o ddigwyddiadau ar draws Cymru a Lloegr i brofi eu blas. Mae canlyniadau cyntaf yr arolwg a’r profion defnyddwyr ar gael yng nghylchlythyron diweddaraf BeefQ.

Y camau nesaf fydd gweithio gyda rhanddeiliaid ehangach o fewn y diwydiant cig eidion Cymreig, gan gynnwys FUW, i ddatblygu strategaeth ar gyfer rhoi system darogan ansawdd bwyta ar waith yng Nghymru.

I ddysgu mwy am brosiect BeefQ ewch i wefan prosiect BeefQ www.beefq.wales lle gallwch hefyd gofrestru i dderbyn y cylchlythyr. Gallwch hefyd eu dilyn ar Twitter @BeefQWales.

Arolygon a Holiaduron Awst

Mae 4 arolwg agored y mis hwn. Ceir crynodeb byr a manylion cymryd rhan isod.

i. Helpu i siapio polisïau i reoli clefydau ymhlith gwartheg Prydain yn y dyfodol

Mae Prifysgol Nottingham yn arwain prosiect newydd ar ‘glefydau heintus’ ar gyfer ffermwyr ac maent am gael barn a phrofiadau ffermwyr llaeth Prydain ar reoli clefydau heintus. Bydd ffermwyr sy’n cwblhau’r arolwg yn cael cyfle i ennill gwobrau o hyd at £100 mewn talebau.

Gellir cwblhau’r arolwg yma: https://nottingham.onlinesurveys.ac.uk/cow-disease ac mae ar agor tan ddiwedd Awst 2020.

ii. Angen ffermwyr ar gyfer arolwg ar effaith straen a blinder ym myd ffermio

Mae Prifysgol Aberdeen wrthi’n cynnal astudiaeth o gyfweliadau â ffermwyr ar straen a blinder, a dylanwad y ffactorau hyn ar ‘ymwybyddiaeth o sefyllfa’. Dylai aelodau sydd â diddordeb fod yn 18 oed neu drosodd a dylent gysylltu ag Ilinca Tone drwy ebost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.


iii. A ydych chi’n defnyddio gwenwyn llygod i gael gwared â llygod mawr? Cwblhewch yr arolwg hwn.

Mae llygod mawr sy’n gallu gwrthsefyll gwenwyn llygod yn magu yn y DU ac mae angen mwy o wybodaeth i leihau eu niferoedd. Bydd yr arolwg hwn yn casglu data i sefydlu i ba raddau y mae ffermwyr yn deall y gallu i wrthsefyll, a pha ddulliau a ddefnyddir ganddynt i reoli plâu o lygod mawr.
Mae’r arolwg yn cael cefnogaeth BASF er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gallu i wrthsefyll a chreu data newydd am y defnydd o wenwyn llygod ar ffermydd ledled y DU.

Mae’r arolwg ar gael i’w gwblhau ar-lein tan Medi 30ain 2020 a gellir ei gwblhau yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/Rodentsurvey

iv. Prosiect ymchwil ar Glefyd Lyme a gweithwyr awyr agored

Nod yr astudiaeth hon yw cynnal ymchwil ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r risg o Glefyd Lyme ymhlith gweithwyr awyr agored yng Nghymru. Wrth i’r achosion gynyddu yn y DU, mi fydd cymryd rhan yn yr astudiaeth yn helpu i ddatblygu gwell dealltwriaeth o lefel yr wybodaeth am Glefyd Lyme, ac yn dylanwadu ar y mesurau y gellir eu cyflwyno i leihau achosion.

Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac ni chasglir unrhyw wybodaeth bersonol. Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch yma.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Awst 2020

Cynllun Crynodeb Ffenestr yn Cau
Contractau Glastir

Bydd contractau Glastir Uwch y mae eu cyfnod gwreiddiol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn cael cynnig adnewyddu eu contract yr Hydref hwn, i ddechrau ar 1 Ionawr 2021.

Bydd contractau Glastir Organig y mae eu cyfnod gwreiddiol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020 a chytundebau Glastir Uwch a Thir Comin y mae eu cyfnod adnewyddu contract yn dod i ben ar 31 Rhagfyr yn cael cynnig estyniad blynyddol, i ddechrau ar 1 Ionawr 2021.

Rhagwelir y bydd y contractau hyn yn cael eu cynnig yn yr hydref.

 
Grantiau Bach Glastir: Dŵr

 

Mae Grantiau Bach Glastir: Dŵr yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr i gwblhau prosiectau i wella ansawdd dŵr a lleihau llifogydd.

Mae gan y ffenestr hon gyllideb o £3 miliwn a rhaid cyflwyno ceisiadau drwy RPW Ar-lein.

Mi fydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau’r gwaith cyfalaf a chyflwyno’r hawliad terfynol erbyn 31 Mawrth 2021.

Cysylltwch â’ch staff FUW sirol lleol i gael cymorth gyda’ch cais.

Mae gwybodaeth bellach ar gael  yma.

27 Gorffennaf – 4 Medi 2020

Grant Busnes i Ffermydd – Ffenestr 7

Mi fydd angen cyflwyno hawliadau, ynghyd ag anfonebau cysylltiedig a llythyr cyfrifydd – mewn perthynas â chontractau sy’n dechrau 29 Mai – erbyn 25 Medi 2020 drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

25 Medi 2020

Grantiau Bach Glastir:  Tirwedd a Pheillwyr

Yn sgil pandemig Covid, mae RPW wedi cadarnhau bod y dyddiad cau ar gyfer gwaith cyfalaf Grantiau Bach Glastir: Tirwedd a Pheillwyr wedi’i ymestyn i 30 Medi 2020, er mwyn gallu cwblhau gwaith ym Medi ar ôl y cyfnod cau ar gyfer torri gwrychoedd/perthi.

30 Medi 2020

Ffenestr ymgeisio am gyllid Cyswllt Ffermio

Bydd y ffenestr ymgeisio am gyllid nesaf ar gyfer hyfforddiant yn agor ar 7 Medi. Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr hon, i wneud cais am hyfforddiant wedi’i ariannu, neu i ddiweddaru eu cyfrif, gysylltu â Chyswllt Ffermio cyn 5pm ar 26 Hydref. Er gwaetha’r cyfyngiadau a’r ansicrwydd ynghylch pryd y bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ail-ddechrau, mae Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio wedi parhau i weithio, gan gynorthwyo’r rhai sydd am wneud cais.

7 Medi – 30 Hydref 2020