Mewnforion Bwyd a Diod o Iwerddon i’r DU yn cynyddu yn 2022

Mae ffigurau a ryddhawyd gan lywodraeth Iwerddon yn dangos bod allforion bwyd i’r DU wedi cynyddu’n sylweddol yn 2022, gan gyrraedd €5.4 biliwn, sef bron €1 biliwn o gynnydd o un flwyddyn i’r llall.  Cafodd cyfanswm uwch nag erioed, sef gwerth €16.7 biliwn o fwyd, diodydd a chynnyrch garddwriaethol ei allforio o’r Weriniaeth y llynedd, i fyny 22% neu €3 biliwn ar y flwyddyn flaenorol, gyda 32% yn cael ei allforio i’r DU fel y farchnad sengl fwyaf.  Cafodd  34% ei allforio i’r UE,  a’r 34% arall i farchnadoedd rhyngwladol.

Gellir priodoli’r cynnydd mewn allforion bwyd a diodydd i’r prisiau uwch fesul uned, yn sgil chwyddiant a chostau mewnbwn cynyddol, a chynnydd ym meitniau’r nwyddau a allforiwyd.  Cynyddodd gwerth y bwyd a’r diodydd a allforiwyd i’r DU ar draws y rhan fwyaf o’r categorïau.

Cododd gwerth Bwydydd Wedi’u Paratoi ar gyfer y Defnyddiwr i’r DU o 14%, i  €2 biliwn, gan gynnwys cig eidion a chig dofednod gwerth ychwanegol, melysion a phrydau cyfleus yn bennaf. Cynyddodd allforion Cynnyrch Llaeth Iwerddon i’r DU o 39%, i €1.2 biliwn, gyda chaws a menyn yn perfformio orau, ac yn cyfrif am 50% o’r allforion.  Cynyddodd allforion cig eidion o Iwerddon i’r DU o 15% gan gyrraedd €1.1 biliwn, sef 43% o holl allforion cig eidion Iwerddon.  Cynyddodd allforion cig defaid Iwerddon 15% o un flwyddyn i’r llall, i €78 miliwn, a hynny’n rhannol am fod gan rhai o broseswyr cig oen mawr Iwerddon gyfleusterau yn y DU hefyd, a’u bod am wneud y defnydd mwyaf o’r rheiny.  Cynyddodd allforion garddwriaethol Iwerddon i’r DU o 3% yn 2022, i €276 miliwn, gyda madarch yn cyfrif am dros hanner y gwerth hwnnw.  Gwelwyd cynnydd o 4% yn y diodydd o Iwerddon, i €276 miliwn.

Comisiynydd Amaeth yr UE yn galw am fwy o gyllideb

Mae Comisiynydd Amaeth yr UE, Janusz Wojciechowski wedi dadlau dros gynyddu cyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gyfer y cyfnod nesaf, sy’n dechrau yn 2028.  Wrth siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop ar 9fed Ionawr, ac yna’n nes ymlaen yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop ar 17eg Ionawr, cyflwynodd ei ddadl dros gynyddu’r gyllideb ar gyfer cymorthdaliadau fferm

Rhai misoedd yn gynharach, mewn cyfweliad â gwasanaeth newyddion Comisiwn yr UE, Euractiv, dywedodd Mr Wojciechowski nad oedd y gyllideb PAC yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd, a bod hynny wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin.  Dywedodd hefyd fod y PAC presennol yn cael ei ledaenu’n rhy denau a dylid cyfeirio taliadau yn y dyfodol at ffermwyr a chynhyrchu bwyd.

Wrth siarad yn ystod y mis hwn, dywedodd fod lefelau chwyddiant uchel yn erydu’r gyllideb PAC, a bod pob hyblygrwydd dan y fframwaith presennol i geisio lliniaru effaith chwyddiant uchel eisoes wedi’i roi ar waith.  Dadleuodd hefyd nad oedd y cynnydd a welwyd ym mhrisiau bwyd yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd mewn costau mewnbwn, ac nad oedd y refeniw ffermio’n codi digon i wneud iawn am yr erydiad yn y taliadau PAC yn sgil chwyddiant.

Crynodeb o Newyddion Ionawr 2023

Cynnydd yn y mewnforion cig oen o Seland Newydd yn effeithio ar Fasnach Cig Oen y DU

Mae cynnydd o 11% yn y mewnforion cig oen wedi’i rewi o Seland Newydd yn 2022 yn golygu bod prisiau cig oen y DU wedi gostwng i’w lefel isaf mewn deufis.  Mae’r gostyngiad hwn wedi dod ar adeg pan mae ŵyn yn cael eu pesgi ar ddwysfwyd yn bennaf, ac mae pris hwnnw wedi codi’n sylweddol, o tua 30%, dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ochr yn ochr ag amgylchedd manwerthu anoddach oherwydd yr argyfwng costau byw, mae cwymp yn y prisiau pwysau byw a phwysau marw, yn ogystal â phrisiau ŵyn stôr, ar adeg pan mae prisiau fel arfer wedi codi yn y gorffennol, yn peri pryder o fewn y sector defaid.

Stocrestr Flynyddol Defaid

Mae ceidwaid defaid a geifr yng Nghymru’n cael eu hatgoffa i gyflwyno’u stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2023 i osgoi cosbau posib. 

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar geidwaid i lenwi Stocrestr Flynyddol dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Dylai nifer y defaid a gofnodir gynnwys defaid bridio, hyrddod, ŵyn hyrddod, ŵyn stôr ac ŵyn wedi’u pesgi, mamogiaid/hyrddod i’w difa a defaid eraill.  Rhaid i ffermwyr hefyd gofnodi nifer y defaid a’r geifr ar y daliad ar y dyddiad dynodedig yng Nghofnod Diadell y fferm.

Rhaid i hwn restru rhifau pob daliad (CPH) lle rydych yn berchen defaid a/neu eifr ar y dyddiad dynodedig.  Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros dro.  Bydd methu â llenwi’r gofrestr yn cynyddu’r risg o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.  Gallwch lenwi’r gofrestr ar-lein ar www.eidcymru.org

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â llinell gymorth gwasanaeth EIDCymru ar 01970 636959 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Profion BVD am Ddim yn Dod i Ben

Daeth y cynllun sgrinio BVD a chanfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, a gynigiwyd am ddim fel rhan o’r Rhaglen Gwaredu BVD gorfodol, i ben ar 31ain Rhagfyr 2022.  Cymerodd dros 9300 (85%) o ffermydd gwartheg yng Nghymru ran yn y rhaglen 5 mlynedd hon.

O 1af Ionawr 2023, bydd yn rhaid i bob ffermwr dalu i’w filfeddyg am unrhyw brofion BVD a gynhelir.  Bydd y costau’n dibynnu ar y filfeddygfa unigol.  Mae UAC yn argymell bod aelodau’n dal ati i sgrinio’u buchesi a, lle bo angen, yn canfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, ac yn cael gwared ag unrhyw anifeiliaid o’r fath a ganfyddir er mwyn dal ati gydag unrhyw welliannau a wnaed eisoes i daclo’r clefyd sylweddol a chostus hwn.

Gall milfeddygon barhau i ddefnyddio’r ffurflen Gwaredu BVD pan fydd ceidwaid gwartheg sydd â buchesi gyda chanlyniadau gwrthgyrff negyddol am dderbyn eu tystysgrif Gwaredu BVD.

Angen ffermwyr i gymryd rhan mewn ymchwil Llinad y Dŵr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwilio am ffermwyr i gymryd rhan mewn ymchwil ar dyfu Llinad y Dŵr mewn slyri a storfeydd dŵr gwastraff,  Mae Llinad y Dŵr yn un o’r planhigion cyflymaf ei dwf ac mae’n llawn protein, a’r gobaith yw y gallai ddarparu ffynhonnell werthfawr o fwyd ar ffermydd, gan ‘lanhau’ dŵr gwastraff a slyri ar yr un pryd.

Mae’r ymchwil, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cork, wedi’i gynnal mewn labordai ac mewn tanciau ar dir Prifysgol Aberystwyth hyd yn hyn.

Dylai ffermwyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect Brainwaves (Bilateral Regional Accord between Ireland and Wales for Agricultural Valorisation and Environmental Sustainability) fynd i wefan Brainwaves: https://www.ucc.ie/en/brainwaves/

Grant Gwyrddu Amaethyddiaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro’n chwilio am bartneriaid o fewn y diwydiant llaeth i weithio gyda nhw er mwyn ehangu eu prosiect peilot Gwyrddu Amaethyddiaeth. 

Mae Gwyrddu Amaethyddiaeth yn brosiect Carbon sy’n edrych ar ddulliau o wrthbwyso allyriadau, a dal a storio carbon yn y tir a’r gwrychoedd, gan weithio efo’r diwydiant llaeth yn arbennig.  

Mae cyllid o hyd at 80% ar gael i gefnogi datblygiadau newydd i arbed ynni, datblygiadau a all gynnwys ynni adnewyddadwy, storio ynni, cynaeafu dŵr glaw, systemau bancio rhew a chyfnewid gwres, a llu o ddulliau eraill a fydd yn helpu ffermydd llaeth i leihau neu wrthbwyso’u hallyriadau carbon.

Mae’r Parc Cenedlaethol am gefnogi Prosiectau o rhwng £10,000 a £40,000 gyda chyllid cyfalaf.  Mae un Ffenestr Ariannu ar ôl yn 2023 a fydd yn cau ar 30ain Ebrill 2023. Bydd angen dychwelyd ffurflen datgan diddordeb erbyn y dyddiad hwnnw.

Rhaid i’r daliad fferm fod o fewn Ffiniau’r Parc Cenedlaethol yn gyfan gwbl neu’n rhannol i fod yn gymwys ar gyfer y cyllid. 

Am sgwrs anffurfiol neu i drafod unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag  Arwel Evans , Swyddog Cadwraeth Ffermydd ar 01646 624 948 neu e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. 

Arolwg Prifysgol Bangor: Cyfleoedd a Rhwystrau rhag cyrraedd Sero Net ar Ffermydd Cig Eidion a Defaid yn y DU

Mae’r myfyriwr PhD Louise McNichol yn archwilio strategaethau i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr Sero Net ar ffermydd cig eidion a defaid (wedi’i hariannu gan raglen Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) a Hybu Cig Cymru).

Fel rhan o’r ymchwil ym Mhrifysgol Bangor mae hi’n cynnal arolwg i gael gwell dealltwriaeth o agweddau ffermwyr tuag at y targed Sero Net, ac i nodi cyfleoedd a rhwystrau rhag cyrraedd y targed.  Mae’r arolwg yn agored i bob ffermwr cig eidion a defaid yn y DU, ac mae’r cwestiynau’n ymwneud â rheolaeth fferm, ôl troed carbon, a’r defnydd o fesurau lliniaru nwyon tŷ gwydr.

Mae’r arolwg ar gael ar-lein ac mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau’n rhai ‘tic yn y blwch’ syml a ddylai gymryd tua 20 - 30 munud i’w cwblhau.  I gymryd rhan yn yr arolwg  ewch i https://bangor.onlinesurveys.ac.uk/net-zero-beef-and-sheep

Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru

Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru’n cynnig grantiau i ariannu, neu ariannu’n rhannol, y gost o osod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnig cyllid ar gyfer gosod cysylltiadau’n unig ac nid yw'n cynnwys costau rhentu misol. 

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i'r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu’r cyflymderau lawr lwytho cyfredol.

Mae’r cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

Hyrwyddo Cig Oen Cymreig PGI yn Japan

Am y tro cyntaf ers 2019 cafodd Gŵyl Hitsuji yn Japan, sy’n dathlu cig oen, ei chynnal yn Tokyo.  Daeth yr ŵyl â chyflenwyr a bwytai o America, Awstralia, Gwlad yr Iâ, Seland Newydd a Japan at ei gilydd.

Roedd Hybu Cig Cymru yn bresennol yn y digwyddiad i hyrwyddo Cig Oen Cymreig PGI, fel rhan o’i strategaeth fasnachu ar ôl Brexit i agor drysau newydd o fewn y farchnad fyd-eang.

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ionawr 2023

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Ionawr 2023

UAC yn codi pryderon ynghylch cwtogi’r gyllideb materion gwledig a gwariant y Rhaglen Datblygu Gwledig

Codwyd pryderon sylweddol mewn cyfarfod o Brif Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch cwtogi cyllideb Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a cholledion pellach posib os na fydd cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei wario.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ar 13 Rhagfyr, yn dangos gwahaniaethau sylweddol ym meintiau a dyraniadau’r gyllideb ers cyhoeddi’r gyllideb ddangosol ym mis Mawrth.

Serch bod Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU wedi arwain at £666 miliwn o gyllid pellach i Lywodraeth Cymru yn 2023-24, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cwtogi ei chyllideb materion gwledig o bron i naw miliwn o bunnoedd.

UAC yn cynnal cyfarfodydd adeiladol ag Aelodau’r Senedd yn y Ffair Aeaf

Cynhaliodd swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfodydd adeiladol ag Aelodau’r Senedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan dynnu sylw at bryderon allweddol ynghylch Bil Amaethyddiaeth (Cymru), Cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, yn ogystal ag amryw o faterion iechyd anifeiliaid, gan gynnwys TB Buchol.

Yn ymuno ag UAC ar gyfer y trafodaethau roedd Jane Dodds AS, Peter Fox AS, James Evans AS, Cefin Campbell AS a Mabon ap Gwynfor AS, yn ogystal â Sam Kurtz AS.

Mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth Cymru, amlinellodd swyddogion yr Undeb 8 o welliannau allweddol sy’n hanfodol, ym marn UAC, i sicrhau bod sefydlogrwydd economaidd a dyfodol teuluoedd ffermio yng Nghymru’n cael eu gwarchod o fewn cynlluniau cymorth y dyfodol, er enghraifft, ehangu’r diffiniad o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) i gydnabod rhyng-gysylltedd a rhyngddbyniaeth rheoli tir â bywoliaethau fferm, ac ychwanegu 5ed Amcan SLM, gyda’r nod penodol o sicrhau cynaliadwyedd economaidd teuluoedd ffermio yng Nghymru, darparu bwyd diogel, olrheiniadwy, a gwarchod diogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang.

UAC yn trafod cynllun gweithredu ar gyfer Llywodraeth y DU mewn cyfarfod gydag Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn y Ffair Aeaf

Bu swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru’n cynnal trafodaethau ar y camau di-oed sy’n rhaid i Lywodraeth y DU eu cymryd i leddfu’r pwysau ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr, tra’n hyrwyddo diogelwch bwyd ac ynni mewn ffyrdd sy’n lleihau’r perygl o fod yn agored i argyfyngau byd-eang yn y dyfodol, pan wnaethon nhw gwrdd ag Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Dr James Davies AS yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Gan atgyfnerthu Cynllun 5 Pwynt UAC, amlinellodd y swyddogion y prif ofynion o ran ail-osod y polisi masnach ryngwladol, adfer perthnasoedd â’n cymdogion agosaf, ysbrydoli chwyldro ynni adnewyddadwy, ail-lunio polisïau amaethyddol a gwledig domestig, a darparu cymorth i ddiwydiannau hanfodol.

Dim ond yn ddiweddar, cadarnhaodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, George Eustice, fod cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi ildio mynediad enfawr i farchnadoedd bwyd y DU yn gyfnewid am fuddiannau pitw i economi’r DU. Mae UAC wedi gwybod ac wedi gwneud hi’n glir erioed bod y cytundebau hyn yn bradychu ffermwyr Cymru a diogelwch bwyd y DU, a hynny’n gyfnewid am fawr ddim, a phwysleisiodd yr Undeb yn ystod y cyfarfod â Dr Davies y dylai Swyddfa Cymru archwilio’n drylwyr a gwrthwynebu unrhyw gytundebau tebyg yn y dyfodol.

UAC yn trafod pwysigrwydd marchnadoedd allforio gyda Gweinidog DEFRA yn y Ffair Aeaf

Bu swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru’n trafod pwysigrwydd cynnal a sefydlu marchnadoedd allforio ffafriol ar gyfer cig coch Cymru gyda Gweinidog DEFRA, Mark Spencer, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan bwysleisio bod yn rhaid adfer perthnasoedd da â’n cymdogion agosaf.

Roedd UAC yn croesawu’r cyfle i drafod pwysigrwydd marchnadoedd allforio a chytundebau masnach ffafriol â’r Gweinidog.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod wrthi’n creu cytundebau masnach y mae ei ffigurau ei hun yn dangos fydd yn tanseilio diogelwch cyflenwad bwyd y DU. Dangoswyd bod y cytundebau hyn yn dod â buddiannau pitw i economi’r DU, tra’n gwneud marchnadoedd y DU yn agored i gynnyrch nad yw’n cwrdd â’r un safonau. Mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ar bolisïau masnach sy’n rhoi diogelwch cyflenwad bwyd a chynhyrchwyr y DU ar dop ei hagenda.

“Mae’r amser wedi dod am chwyldro ynni adnewyddadwy”, medd UAC wrth AS Brycheiniog a Sir Faesyfed yn y Ffair Aeaf

Mae’r amser wedi dod am chwyldro ynni adnewyddadwy – dyna oedd neges allweddol swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru pan gwrddon nhw ag AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones, yn y Ffair Aeaf.

Clywodd yr AS fod ein dibyniaeth ar farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang wedi dod i’r amlwg yn sgil effeithiau’r pandemig a rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.

Mae cynhyrchu ynni gan ddefnyddio tanwydd ffosil yn ail i fusnes yn unig yn nhermau cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac yn ail gyfrannwr uchaf yn y DU, ar ôl trafnidiaeth.
Clywodd yr AS hefyd fod 50% o’r trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn 2018 yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, cynnydd o’i gymharu ag 19% yn 2014 a 48% yn 2017. Pwysleisiodd swyddogion yr Undeb fod cyfran enfawr o’r ynni hwnnw wedi’i gynhyrchu ar dir ffermio yng Nghymru, ond bod y twf dros y blynyddoedd diwethaf wedi arafu’n sylweddol wrth i’r Llywodraeth gael gwared â chymhellion i ffermwyr.

Ffermwyr Cymru: “Prisiau uwch Cyfoeth Naturiol Cymru am reoleiddio’n annerbyniol yn yr hinsawdd bresennol”

Mae cynigion corff rheoleiddio amgylcheddol Cymru’n annerbyniol yn erbyn cefnlen yr argyfwng costau byw, medd arweinwyr cymuned ffermio Cymru, y CLA, NFU Cymru ac UAC.

Mae asiantaeth Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn bwriadu cyflwyno cynnydd dramatig i gost trwyddedau ar gyfer cyflawni gwaith angenrheidiol ac anorfod ar ffermydd Cymru. Er enghraifft, mae costau gwasgaru dip defaid ar y tir ar fin codi i 20 gwaith y gost bresennol ar gyfer cais newydd.

Mae’r tri sefydliad yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ail-edrych ar y cynigion yng nghyd-destun ansicrwydd nas gwelwyd erioed o’r blaen yn y byd amaeth yng Nghymru.

Crynodeb o newyddion Rhagfyr 2022

Y tarfu ar allforio cig o’r DU i’r UE wedi’i ohirio am 12 mis

Mae rheolau newydd ar gyfer allforion i’r UE a fyddai wedi tarfu’n sylweddol ar ddiwydiant cig y DU wedi’u gohirio am 12 mis yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU gan gyrff masnachu cig blaenllaw.

Mi fyddai’r rheolau, a oedd i ddod i rym ar 13eg Rhagfyr 2022 wedi golygu, dan ofyniad yr UE bod ffermydd tarddiad yn cael ymweliad milfeddygol rheolaidd, bod rheolau newydd y DU yn golygu na fyddai ffermwyr yn gallu hunan-ardystio bellach, gan olygu bod tystiolaeth megis aelodaeth o gynllun sicrwydd fferm cydnabyddedig neu ddatganiad milfeddygol dilys yn ofynnol, serch bod datganiadau ffermwyr yn cael eu derbyn gan yr UE.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 – Gofynion o 1af Ionawr 2023

Cynlluniau Rheoli Maethynnau

(Rheoliadau 6 a 7)

Bydd angen i ffermwyr gyfrifo’r meintiau gofynnol o nitrogen ar gyfer pob cnwd, gan gynnwys glaswelltir.  Gan ddefnyddio gweithlyfr, rhaid llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen bob blwyddyn. Rhaid i’r Cynllun Rheoli Maethynnau  hwn ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

Ymrwymiad o £32 miliwn i gynlluniau Coetir

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn neilltuo £32 miliwn ar gyfer cynlluniau coetir dros y 3 blynedd nesaf.

Y tri chynllun fydd:-

Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir

Stocrestr Flynyddol Defaid

Atfgoffir ceidwaid defaid a geifr yng Nghymru i gyflwyno’u stocrestr flynyddol erbyn 1af Chwefror 2023 i osgoi cosbau posib.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod ceidwaid yn cwblhau Cofrestr Flynyddol dan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.

Dylai nifer y defaid a gofnodir gynnwys mamogiaid, hyrddod, ŵyn gwryw, defaid stôr ac ŵyn wedi’u pesgi, mamogiaid/hyrddod i’w difa a defaid eraill.  Rhaid i ffermwyr hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar y daliad ar ddyddiad dynodedig yng ‘Nghofnod Diadell’ y fferm.

Hybu Cig Cymru (HCC) – Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig

Mae Hybu Cig Cymru wedi cyhoeddi rhifyn diweddaraf eu ‘Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig’ ar gyfer 2022.

Mae’r cyhoeddiad yn grynodeb o ystadegau diwydiant cig coch a da byw Cymru ar gyfer 2021. 

Yn y llyfryn hwn ceir gwybodaeth gyffredinol megis y mathau mwyaf cyffredin o ffermydd yng Nghymru a maint daliadau amaethyddol, data a thueddiadau’r farchnad ar gyfer gwartheg, defaid a moch yng Nghymru a’r DU, a data masnachu, gan gynnwys maint a gwerth mewnforion ac allforion.

Y Rheolau Trawsgydymffurfio diweddaraf ar gyfer 2023

Mae’r Taflenni Ffeithiau a Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio diweddaraf ar gyfer 2023 ar gael erbyn hyn ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae’r prif newidiadau’n ymwneud â:

  • SMR 1 – Diogelu Dŵr – Mae’r Daflen Ffeithiau a Safonau Dilysadwy wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r gofynion sy’n gymwys ar gyfer pob tir o 1af Ionawr 2023 dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.  Mae’r newidiadau’n cynnwys: 

Cyllid Sgiliau Cyswllt Ffermio

Agorodd y ffenestr ddiweddaraf i ymgeisio am gyllid sgiliau Cyswllt Ffermio ar 28ain Tachwedd 2022.

Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael i unigolion cofrestredig ar gyfer yr holl gyrsiau hyfforddiant, gyda thros 20 o gyrsiau byr ar gael, wedi’u categoreiddio dan ‘Busnes’, ‘Tir’ a ‘Da Byw’, gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy ledled Cymru.

Mae ymgeisio am hyfforddiant sgiliau Cyswllt Ffermio yn broses ar-lein yn bennaf ond gallwch cael cymorth a chefnogaeth un i un os oes angen.

Ffliw Adar – Y Diweddaraf

Mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol wedi bod yn eu lle ar gyfer dofednod ac adar caeth ers Dydd Gwener 2il Rhagfyr, mewn ymateb i’r risg cynyddol o ffliw adar yng Nghymru dros fisoedd y gaeaf. 

O 2il Rhagfyr mae’n ofyniad cyfreithiol i geidwaid gadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt, a chynnal hunanasesiad bioddiogelwch gorfodol, a geir ar: https://www.llyw.cymru/rhestr-wirio-hunan-asesu-gorfodol 

Ar hyn o bryd mae un achos agored o Ffliw Adar yng Nghymru, a hynny ger Bwcle yn Sir y Fflint, lle mae Parth Adar Caeth (Monitro) 3km yn ei le. 

Arolwg Tyfu Bwyd Cymunedol Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae’r prosiect Cilrath Acre sy’n cael ei redeg gan Tir Coed yn darparu bwyd ffres iach ar gyfer Banc Bwyd Sir Benfro, ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau tyfu bwyd.

Mae Tir Coed o’r farn y gellid ailadrodd hyn ym mhob cymuned ledled Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys. 

Mae Tir Coed yn elusen sy’n cysylltu pobl â thir a choedwigoedd drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi, dysgu a llesiant awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Cynnydd sylweddol o ran cynllunio polisi amaethyddol Cymru, ond pryderon mawr o hyd, medd UAC wrth ymateb i’r cynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ymateb i’r cynigion diweddaraf ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn dilyn ymgynghori helaeth â’i haelodau ledled Cymru, gan bwysleisio, serch bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, bod yna bryderon a rhwystrau mawr yn bodoli o hyd.

Yn ei hymateb, pwysleisiodd yr Undeb fod ei haelodau’n croesawu’r fframwaith SFS cyffredinol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar yr egwyddor o ‘daliad llinell sylfaen’ ar gyfer pob ffermwr sy’n cyflawni ‘Gweithredoedd Sylfaenol’, sydd ddim yn annhebyg i’r ‘taliad sefydlogrwydd’ y bu UAC yn lobïo amdano am flynyddoedd, gyda ffrydiau refeniw ychwanegol ar gyfer ‘Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol’.

Croesawyd yn gyffredinol y bwriad i wneud gwell defnydd o ddata RPW Ar-lein, a chasglu data newydd drwy hunan-fonitro a thechnoleg newydd, i leihau’r angen am gynghorwyr neu gontractau cymhleth sydd angen llawer o adnoddau, a fyddai’n lleihau’r gyllideb amaethyddol. Croesawyd hefyd yr egwyddorion cynllunio, sy’n anelu at ‘gadw ffermwyr ar y tir’ a chydnabod bod ‘cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n cenedl’.

Cyn Weinidog yn cadarnhau bod y DU wedi ildio mynediad amaethyddol mewn cytundebau masnach gwan medd UAC

Mae datganiadau yn Senedd San Steffan gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, George Eustice, yn cadarnhau bod cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi rhoi mynediad enfawr i’r gwledydd hynny i farchnadoedd bwyd y DU, yn gyfnewid am fuddiannau pitw.

Wrth siarad yn San Steffan yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Eustice wrth yr Aelodau Seneddol fod y DU “wedi ildio gormod o lawer yn gyfnewid am rhy ychydig o lawer” serch dechrau’r trafodaethau “gyda’r llaw gorau posib”. Honnodd hefyd fod y trafodaethau wedi’u tanseilio gan y cyn Weinidog Liz Truss, a fynnodd fod cytundeb yn cael ei ffurfio ag Awstralia cyn uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw ym Mehefin 2021.

Mae Mr Eustice wedi cadarnhau popeth y mae UAC wedi’i ddweud am y cytundeb hwn. Roedd y wedd bositif a roddwyd ar y cytundebau hyn ar y pryd gan Boris Johnson a Gweinidogion ac Aelodau San Steffan yn nonsens llwyr.

UAC yn pwysleisio pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a theuluoedd ffermio yn Ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) i Fil Amaethyddiaeth (Cymru)

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi galw unwaith eto am gydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a theuluoedd ffermio i economi, diwylliant, cymunedau a thirweddau Cymru, ac wedi annog Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) i sicrhau y bydd y cymorth sy’n hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd diogel o ansawdd da yn parhau, er mwyn osgoi difrod anadferadwy i Gymru.

Wrth ymateb i Ymchwiliad ETRA i Fil Amaethyddiaeth (Cymru), pwysleisiodd UAC fod y diffyg sylw a roddwyd i gynhyrchu bwyd yn ymgynghoriad Brexit a’n Tir 2018 yn bryder mawr i aelodau UAC, ac ers refferendwm Brexit, mae UAC wedi dadlau’n gyson y dylai egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) gynnwys nid yn unig cynaliadwyedd economaidd ffermydd teuluol yng Nghymru, ond hefyd y gallu i gynhyrchu bwyd diogel ac olrheiniadwy mewn ffordd gynaliadwy.

Roedd UAC felly’n croesawu’r ffaith bod cynhyrchu bwyd wedi’i gynnwys yn yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a geir yn y Bil, ond mae’n dal i fod yn bryderus nad oes yna gyfeiriad uniongyrchol at lesiant economaidd busnesau ffermio yn yr Amcanion.

Llywydd UAC yn pwysleisio bod ffermwyr yng Nghymru’n rhan o’r ateb o ran taclo’r argyfwng hinsawdd

Mae ffermwyr yng Nghymru’n rhan o’r ateb o ran taclo’r argyfwng hinsawdd - dyna oedd neges allweddol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru cyn Cynhadledd Gwledydd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP27), a gynhaliwyd rhwng 6ed - 18fed Tachwedd yn Sharm El Sheikh yn Yr Aifft.

Mae ffermwyr ar draws y wlad yn cymryd argyfwng yr hinsawdd a bioamrywiaeth o ddifrif, ac maent wrthi’n cyfrannu mewn ffordd bositif drwy ddiogelu, gwella ac ychwanegu at y storfeydd carbon presennol ar ffermydd, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd.

Er enghraifft, mae ffermwyr Cymru’n ymfalchïo yn eu hymdrechion i gynyddu carbon organig pridd glaswelltir, amddiffyn mawndiroedd rhag difrod drwy reoli lefelau pori a draenio, cymryd camau i reoli coetiroedd fferm presennol ac ystyried creu coetiroedd newydd, creu cynefinoedd bywyd gwyllt ar hyd cyrsiau dŵr, ymylon caeau a gwrychoedd, ac edrych ar allyriadau drwy gyfrifyddion carbon a gwella effeithlonrwydd.

Mae aelodau UAC wedi ymrwymo llawn cymaint ag eraill ledled y DU i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gymaint â phosibl, gan barhau i gynhyrchu bwyd maethlon, cynaliadwy. Nid yw eu rôl yn argyfwng yr hinsawdd yn un niweidiol, ond yn un o warchod, adfer a meithrin.

Er y bydd rhai, dros yr wythnosau nesaf, yn cymryd y cyfle i roi enw gwael i’r diwydiant a gwneud honiadau ffug am fwyta cig coch a chynnyrch llaeth, mae gan y diwydiant reswm da dros ddal ei ben yn uchel ac ymfalchïo yn y bwyd o ansawdd da a gynhyrchir yng Nghymru a ledled y DU.

Mae papurau diweddar grŵp o wyddonwyr, yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw megis yr Athro Alice Stanton, Ffarmacolegydd Cardiofasgwlaidd o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Iwerddon, a’r gwyddonydd bwyd uchel ei barch o Wlad Belg, Yr Athro Frédéric Leroy, wedi cwestiynu’r data a gynhyrchwyd ar gyfer adroddiad EAT – Lancet (nas adolygwyd gan gyfoedion) y cyfeirir ato’n fynych, sy’n awgrymu bod bwyta cig coch yn wael i iechyd dynol.

Mae cig coch yn cynnwys maethynnau sy’n anodd eu canfod fel arall, ac mae arbenigwyr maeth fel yr Athro Stanton yn cyfeirio’n gyson at y buddiannau maethol hanfodol a geir mewn cig coch ar gyfer twf yr ymennydd a’r corff. Mae hi hefyd yn pwysleisio bod effaith amddiffynnol proteinau sy’n dod o anifeiliaid yn hanfodol, yn enwedig i blant bach, ac mae’n dadlau, serch nad yw’n beirniadu deiet llysieuol a fegan, bod pobl yn gorfod gweithio’n galetach i gael yr un maeth o’r rhain.

Mae UAC yn annog defnyddwyr i roi ystyriaeth ofalus i’r ffeithiau, boed y rheiny’n amgylcheddol neu’n faethol, a dwyn i gof mai rhan o’r ateb o ran taclo’r argyfwng hinsawdd yw ffermio yng Nghymru – nid y broblem.

Comisiynydd Amaeth yr UE yn galw am PAC sy’n canolbwyntio mwy ar ffermwyr

Mae Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb ar gyllideb yr UE ar gyfer 2023 fel y’i cynigiwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r cynnig yn ymwneud ag ymrwymiadau o €186 biliwn, a thaliadau o €168.7 biliwn. Mae hyn €1 biliwn yn fwy na’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym Mehefin.

Mae bron traean, sef €54.7 biliwn, ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin a Chronfa’r Môr, Pysgodfeydd a Dyframaeth Ewrop "to strengthen the resilience of the agri-food and fisheries sectors and to provide the necessary scope for crisis management.”

Roedd y comisiynydd amaeth Janusz Wojciechowskihe wedi dweud yn gynharach, mewn cyfweliad ar wasanaeth newyddion Comisiwn yr UE, Euractiv, nad oedd y PAC yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd, fel y dangosodd pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin. Dywedodd hefyd fod y PAC presennol wedi’i daenu’n rhy denau, a dylid anelu taliadau yn y dyfodol at ffermwyr a chynhyrchu bwyd.

Crynodeb o newyddion Tachwedd 2022

Ffermwyr Ifanc Iwerddon i gael Mwy o Gymorth o 2023

Mae Gweinidog Amaeth Iwerddon wedi dweud wrth ffermwyr ifanc yn Iwerddon y byddant yn cael cymorth dros y pum mlynedd nesaf, drwy gynllun strategol nesaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin a hefyd drwy Gyllid Cenedlaethol.

Defnyddir 3% o’r taliadau uniongyrchol yn Iwerddon i gynorthwyo ffermwyr ifanc. Mi allai hyn olygu bod y cyfraddau a delir i ffermwyr ifanc yn codi o €68/ha i €170/ha ar gyfer y 50 hectar cyntaf, ac ni fyddent yn gysylltiedig â hawliau. Byddai ffermwyr ifanc hefyd yn cael cymorth ar gyfradd uwch o 60% ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.

Arolwg Masnachu Seiliedig ar Risg o TB Buchol

Mae UAC am gael barn ei haelodau ar ibTB, sef y teclyn masnachu seiliedig ar risg sy’n mapio achosion o TB Buchol yng Nghymru a Lloegr dros y 10 mlynedd flaenorol.

Ar hyn o bryd mae safle ibTB yn un mynediad agored, rhad ac am ddim, sydd ar gael yma. Mae ibTB yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Defra a Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu gan Grŵp Ymchwil Amgylcheddol Rhydychen (ERGO) ac APHA. Mae ERGO ac APHA yn parhau i ddatblygu ibTB ac maent wedi dylunio arolwg Defnyddiwr sy’n ymdrin ag ymarferoldeb y safle, a hefyd y ffactorau y dylid eu cynnwys wrth ddefnyddio’r safle i bennu’r risg o TB mewn gwartheg cyn eu prynu.

Mae ibTB eisoes yn arddangos gwybodaeth masnachu seiliedig ar risg ar gyfer buchesi yn Lloegr.  Mae hyn yn cynnwys nifer y blynyddoedd y mae buches wedi bod yn rhydd o TB.  Fodd bynnag, mae ‘na ‘sgorau iechyd’ eraill mwy cymhleth y gellid eu cynnwys, sy’n cyfuno gwahanol ddarnau o wybodaeth.  Mi allai hyn gynnwys nifer y gwartheg adweithiol fesul buches heintiedig (fel canran o nifer yr anifeiliaid yn y fuches), neu hanes symudiadau buchesi y bwriedir prynu anifeiliaid ohonynt.  Un ffordd arall bosib o fesur risg a gynigir yw p’un ai yw’r fuches yn aelod o gynllun achrededig megis CHeCS ai peidio. 

Y diweddaraf am Ffliw Adar

Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru o 17eg Hydref 2022.  Mae’r Parth Atal yn ymestyn dros bob rhan o Gymru.  Bydd yn rhaid i geidwaid adar gadw at fesurau bioddiogelwch penodol, fel y’u gosodir yn y datganiad.

Mae’r mesurau bioddiogelwch yn y datganiad yn cynnwys:

Cynigion HCC i gynyddu’r lefi cig coch

Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio ymgynghoriad wyth wythnos ar gynigion i gysylltu cyfraddau lefi cig coch â chyfraddau chwyddiant.  Mae HCC am gael barn rhanddeiliaid ar sut y gellir parhau â’r gwaith o hyrwyddo cig coch Cymru yng ngoleuni’r gostyngiad, mewn termau real, yn yr incwm o refeniw’r lefi, oherwydd chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae’r cynnig ar gyfer cyflwyno mecanwaith newydd i ganiatáu i’r cyfraddau lefi blynyddol cyd-redeg â chwyddiant, fel bod incwm y lefi’n aros yr un peth mewn termau real.  Er enghraifft, petai chwyddiant yn 2022 yn 8.8% yna byddai cyfraddau lefi 2023/24 yn cynyddu 8.8%.  Mi fyddai hynny’n golygu bod y lefi ar gyfer cynhyrchwr defaid yn 2023/24 6 cheiniog yn uwch, gan godi o 63 ceiniog i 69 ceiniog, a’r lefi gwartheg 38 ceiniog yn uwch, gan godi o £5.67 i £6.05.

Mae HCC yn dweud y byddai cynyddu incwm y lefi yn sicrhau bod gan ddiwydiant cig coch Cymru gorff cig coch sydd â chyllid digonol i fynd ati i ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru, gartref a thramor. 

Gwyliadwriaeth Gwerthiant ac Ymwrthedd i Wrthfiotigau Milfeddygol y DU 2021

Cyhoeddwyd Adroddiad Gwyliadwriaeth Gwerthiant ac Ymwrthedd i Wrthfiotigau Milfeddygol (VARSS) y DU 2021 ar 8fed Tachwedd, ac roedd yn dangos tueddiad tuag at ddefnyddio llai o wrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd yn y DU. 

Ers 2014 mae adroddiadau VARSS wedi dangos sut y mae data ar werthiant gwrthfiotigau a’u defnydd ar ffermydd wedi helpu i ddangos tueddiadau cenedlaethol, a llunio camau gweithredu.

Mae prif bwyntiau adroddiad eleni fel a ganlyn:

Cyrsiau hyfforddiant Sefydliad DPJ ar Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o fewn amaethyddiaeth

Mae gan Sefydliad DPJ gyrsiau ar droed ar Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o fewn Amaethyddiaeth yng Nghymru.

Nod y sesiynau yw cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda chynghorion ymarferol i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth ymdopi.

Mae’r hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sy’n byw/gweithio o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru neu’n gweithio’n uniongyrchol â ffermwyr Cymru.

Y Diweddaraf am System Amlrywogaeth EID Cymru

Gan ddod â’r systemau gwahanol ar gyfer gwartheg, defaid a moch at ei gilydd, mae Llywodraeth Cymru’n ehangu EID Cymru i greu’r system olrhain amlrywogaeth gyntaf yng Nghymru.  Gwnaed y cyhoeddiad ynghylch creu un system olrhain amlrywogaeth yn Rhagfyr 2018 ond mae cymhlethdodau a dibyniaeth ar ffactorau allanol wedi arwain at oedi cyn symud ymlaen â’r prosiect. 

Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd yn ddiweddar ar wefan Llywodraeth Cymru ar y broses o ddatblygu EID Cymru i greu system olrhain amlrywogaeth newydd.

Roedd Cam 1 o’r datblygiad yn golygu diweddaru’r system Defaid, Geifr a Cheirw, a gwblhawyd yn Nhachwedd 2021.  Mae Cam 2 ar droed, sef datblygu system EID Cymru i ymgorffori’r holl adroddiadau ar gofrestriadau a symudiadau gwartheg. Mi fydd pob ceidwad ac eiddo yng Nghymru’n trosglwyddo o BCMS a CTS i EID Cymru.  Disgwylir y bydd hyn wedi’i roi ar waith erbyn diwedd 2023.

Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Tachwedd 2022

Dyddiadau Ffenestri mynegi diddordeb Tachwedd 2022

 

UAC yn atgoffa’r Senedd bod angen i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ddiogelu incwm ffermydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi galw eto am ychwanegu pumed amcan i Fil Amaethyddiaeth (Cymru) i sicrhau bod economeg a hyfywedd ffermydd wedi’i ymgorffori yn fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) Llywodraeth Cymru.  Trafodwyd yr angen am amcan yn ymwneud ag incwm ffermydd gan UAC mewn sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) yng Nghaerdydd.

Croesawodd UAC y cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.  Mae’r Bil hwn, os caiff ei ddylunio’n briodol, yn cynrychioli cyfle i ddatblygu polisïau ffermio sydd wedi’u teilwra i gwrdd ag anghenion y rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, gan osod y sylfaen i’r newid mwyaf o ran amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Fel mae’n sefyll, mae’r amcanion a geir yn y Bil yn deillio’n gyfan gwbl o’r diffiniad o SLM a ddefnyddir gan y Cenhedloedd Unedig.  Mae’r diffiniad hwn yn nodi bod yn rhaid i’r defnydd o adnoddau tir i gynhyrchu nwyddau i gwrdd â gofynion dynol newidiol sicrhau potensial yr adnoddau hyn a’u buddiannau amgylcheddol dros y tymor hir ar yr un pryd.

Y cyhoeddiad ar Adnoddau Dŵr yn gyfle da i ddylanwadu ar newid medd UAC

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), sy’n nodi’r bwriad i ohirio gweithredu’r terfyn nitrogen blynyddol fferm gyfan o 170kg fesul hectar, ac ymgynghori ar gynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw, yn cael ei groesawu fel cyfle i ddylanwadu ar newid.

Roedd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar Ddydd Mercher 5ed Hydref 2022, a gyhoeddwyd o dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, yn cydnabod bod rhai busnesau fferm, o ganlyniad i ansicrwydd, wedi gohirio gwneud penderfyniadau buddsoddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol.

I gydnabod yr amgylchiadau hyn, nododd y Gweinidog ei bwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu yr hydref hwn i fod yn weithredol tan 2025, gan ddarparu estyniad byr i weithredu’r terfyn nitrogen fferm gyfan o 170kg fesul hectar tan fis Ebrill 2023.

Llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI i’w anfon i’r Unol Daleithiau mewn degawdau yn newyddion da i’r diwydiant medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion bod y llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI mewn degawdau wedi’i anfon i’r Unol Daleithiau.

Cafodd y  llwyth cyntaf o gig oen DU ar gyfer yr Unol Daleithiau ers y gwaharddiad ar fewnforion yn 1996 oherwydd y risgiau posib o BSE, ei brosesu yn Dunbia yn Sir Gaerfyrddin, y safle cyntaf yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforion.

Croesawodd UAC y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU Boris Johnson ym mis Medi y llynedd bod disgwyl y byddai’r gwaharddiad hirsefydlog yn cael ei godi.

UAC yn pwysleisio pwysigrwydd craffu yn sesiwn dystiolaeth y Bil Masnach

Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru bwysigrwydd craffu ar unrhyw gytundebau masnach a wnaiff y DU pan roddodd dystiolaeth gerbron pwyllgor y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) ar Ddydd Mercher 12 Hydref.

Croesawodd UAC y cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.  Serch bod y Bil hwn yn cyfeirio’n benodol at adrannau caffael y cytundebau masnach ac, os caiff ei basio, hwn fydd y darn olaf o’r jig-so o ran caniatáu i Lywodraeth y DU gadarnhau’r cytundebau masnach, roedd, serch hynny’n darparu cyfle i leisio pryderon ynghylch yr effeithiau posib, a’r broses graffu bresennol.

Os gall cynhyrchwyr Seland Newydd ac Awstralia wneud cais am gontractau caffael yn y DU, mi fydd hynny’n gymhelliad pellach i foddi marchnadoedd y DU.  O fewn y darlun mawr byd-eang, mae’n annhebygol y byddai cynhyrchwyr y DU yn gallu cystadlu am gontractau caffael yn eu gwledydd oherwydd y gwahaniaethau o ran cyfraddau a dulliau cynhyrchu, ond mae hyn, yn y bôn yn pwysleisio pwysigrwydd cyfeirio polisïau caffael yn y DU tuag at gynnyrch Cymreig a Phrydeinig.

UAC yn croesawu’r cyhoeddiad am daliadau BPS ymlaen llaw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd 97% o ffermwyr sy’n hawlio Cynllun Taliad Sylfaenol yn derbyn taliad ymlaen llaw ar 14eg Hydref 2022.  Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd 70% o werth amcangyfrifedig eu hawliad yn cael ei dalu, sy’n golygu y bydd dros £161 miliwn yn cael ei dalu i dros15,600 o fusnesau fferm yng Nghymru.

Bydd busnesau fferm yn derbyn taliadau llawn a gweddill balans BPS 2022 o 15fed Rhagfyr  2022, yn amodol ar ddilysu’r hawliad yn llawn. 

Mae UAC wedi dweud bod hyn yn newyddion gwych i’r sector ac i’r holl fusnesau fferm ledled Cymru a fydd yn derbyn rhandal cyntaf y taliad ar 14eg Hydref, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol.  Mae’n gredyd i Lywodraeth Cymru bod y system hon yn gweithio mor dda ac mi ddylai fod yn esiampl i eraill.  Mae’n hanfodol felly bod mecanwaith ariannol o’r fath yn aros yn ei le yn y dyfodol, i sicrhau nad yw busnesau fferm a’r economi wledig ehangach yn dioddef.

Crynodeb o newyddion Hydref 2022

Rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE yn is na’r cyfartaledd

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gomisiwn yr UE yn rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE 8% yn is na’r llynedd a 5.1% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Yn y gorffennol mae’r UE wedi llacio rheolau amgylcheddol er mwyn ceisio codi’r lefelau cynhyrchu, gan ganiatáu i ffermwyr blannu cnydau ar ardaloedd amgylcheddol, oherwydd prinder yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, serch llacio’r rheolau amgylcheddol, bod yr ardal a blannwyd ar draws yr UE 1.3% yn llai na’r cyfartaledd 5 mlynedd.  Yn ogystal â lleihad ym maint yr ardal a blannwyd, mae cyfnod o sychder ar draws yr UE dros yr haf wedi gwaethygu’r sefyllfa, gyda maint y cnydau a gynaeafwyd i lawr 7% o’i gymharu â 2021 a 3% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Rhowch adborth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae arolwg ar y gweill a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddeall yn well sut y bydd y camau gweithredu a’r prosesau a osodwyd yn y cynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn gweithio ar draws gwahanol fathau o ffermydd.

Mae’r arolwg wedi’i gynllunio i ddeall a ydy ffermwyr yng Nghymru’n teimlo y gallant gymryd y camau gweithredu a gynigiwyd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bras diweddar, ac os na, beth yw’r prif rwystrau, a pha gymorth pellach fyddai ei angen.

Mae’r camau gweithredu’n ymestyn dros nifer o feysydd gwahanol, o wella perfformiad y busnes a gwella iechyd da byw, i wella dulliau o reoli priddoedd, cynefinoedd a choetiroedd.

Cyfrifoldebau perchnogion a meddianwyr tir dros goed sy’n ffinio â’r rhwydwaith mynediad

Dan Adran 154(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n ofynnol bod perchnogion a meddianwyr tir yn tocio llystyfiant ar goed, llwyni neu wrychoedd sy’n crogi dros y rhwydwaith mynediad, fel nad ydynt yn peryglu cerbydau, cerddwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau.  Mae hyn yn berthnasol i ffyrdd a llwybrau troed ond hefyd i lwybrau o fewn ardaloedd y mae gan y cyhoedd fynediad atynt.

Hefyd, dan adran (2) o Ddeddf Priffyrdd 1980, gellir cyflwyno hysbysiad i berchennog neu reolwr tir i dynnu unrhyw wrych, coeden neu lwyn sy’n farw, yn heintiedig, wedi’i ddifrodi neu  â gwreiddiau anniogel.

Os na chaiff y gwaith o dynnu gwrychoedd, coed neu lwyni ei gyflawni a’i fod yn debygol o rwystro neu achosi perygl drwy gwympo ar ddefnyddwyr y rhwydwaith, yna gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad i gwblhau’r gwaith o fewn 14 diwrnod.  Gall methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod o 14 diwrnod olygu bod yr awdurdod lleol yn cwblhau’r gwaith ac yna’n adennill costau rhesymol gan y perchennog/rheolwr tir.

Prosiect ymchwil DNA yn helpu i ymchwilio i ymosodiadau ar dda byw

Mae Heddlu Gogledd Cymru a thîm ymchwil fforensig yn cydweithio i ddarparu cymorth amhrisiadwy ar gyfer ymchwilio i ymosodiadau ar dda byw yn y dyfodol.

Amcangyfrifir bod ymosodiadau gan gŵn ar dda byw wedi costio £1.52 miliwn i ffermwyr Prydain y llynedd, yn ôl data’r diwydiant.  Ar gyfartaledd, yng Ngogledd Cymru, ceir oddeutu 120 o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw bob blwyddyn.  Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu cyflawni gan gŵn sydd wedi dianc o’u cartrefi, ac mae nifer o’r achosion hyn yn ymosodiadau ar ddefaid.

Gyda chyllid a ddarparwyd gan DEFRA, mae swyddogion Gogledd Cymru wedi uno gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i roi proses ymchwilio seiliedig ar DNA ar waith, i nodi cŵn a amheuir o fod wedi ymosod ar dda byw.

Ymweliad am Ddim Diogelwch Tân ar Ffermydd Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am weithio gyda theuluoedd ffermio i gadw anwyliaid, cartrefi, tir ac anifeiliaid yn ddiogel rhag tân.

Mae’r Gwasanaeth yn gwahodd ffermwyr i wneud cais am Ymweliad Diogelwch Tân ar Ffermydd rhad ac am ddim i helpu i baratoi cynllun i leihau’r perygl o dân. Byddant yn helpu gyda’r canlynol:

Y gwir am gost gynyddol tor diogelwch data

Er bod nifer o fusnesau fferm yn mynd yn fwy a mwy gwyliadwrus wrth ddiwygio eu polisïau gwaith i liniaru’r perygl o ymosodiadau seiber, mae nifer fawr ohonynt heb fesurau  digonol yn eu lle o hyd i’w diogelu rhag troseddau seiber.

Serch bod nifer yr ymosodiadau penodol a gafodd effaith ariannol wedi lleihau rhyw fymryn dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r costau cyffredinol i’r rhai a effeithiwyd wedi codi’n ddramatig.  Ers 2017, pan oedd y gost uniongyrchol i fusnesau yn £1,380 ar gyfartaledd, mae’r ffigur wedi tyfu erbyn hyn i £3,150 yn 2019.  Nid yw’r swm hwn yn rhoi ystyriaeth i’r costau adfer a’r costau hirdymor, all fod yn gyfanswm o tua £3,000 ar gyfartaledd.

Er bod nifer y busnesau mawr a chanolig sy’n diogelu eu busnesau gydag yswiriant seiber wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, dim ond 11% o fusnesau a 6% o elusennau sydd ag yswiriant arbenigol yn ei le.  Ar ben hynny, ychydig dros traean yn unig o fusnesau sydd ag aelod bwrdd neu ymddiriedolwr sy’n benodol gyfrifol am seiberddiogelwch.