Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig gwasanaeth samplo, profion, a chyngor un i un gan feddygon lleol i fusnesau fferm yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda nhw.
Mae cyllid ar gael ar gyfer unrhyw faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid, all gynnwys profion ffrwythlondeb, profion gwaed, cyfri’r wyau mewn carthion, IBR, Leptosbirosis a chloffni.
I fod yn gymwys, rhaid ichi fod wedi cofrestru â Cyswllt Ffermio, a rhaid i ffermwyr a milfeddygon gadarnhau eu diddordeb gyda Cyswllt Ffermio cyn y gwneir unrhyw samplo/profion, a rhaid i’r profion gymryd lle o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad dosbarthu.
Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael a’r cyntaf i’r felin fydd hi.
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/node/1479