Gweminar ar y Sychder yng Nghymru yn 2022

Mae Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM) yn cynnal gweminar a fydd yn rhoi darlun o’r modd y rheolir sychder yng Nghymru, ynghyd â chrynodeb o’r uchafbwyntiau hydrolegol a’r dilyniant o ddigwyddiadau yn ystod 2022.

Cynhelir y weminar ar 16eg Mawrth 2023 rhwng 4pm a 5.30pm ac mae’n un ddi-dâl. 

Yn 2022, rhwng Mawrth a Medi, cafodd Cymru 63.8% yn unig o’i glawiad arferol yn ystod y saith mis sychaf mewn 150 o flynyddoedd.  O ganlyniad, cyhoeddwyd cyfnod o Sychder am ran helaeth o’r haf ledled Cymru gyfan, gyda’r adferiad yn dechrau ar ôl glaw bendithiol yr hydref, tua diwedd Tachwedd 2022. 

Bydd tri siaradwr, gan gynnwys Gareth Parry, Uwch Swyddog Polisi a Chyfathrebu UAC, yn rhoi darlun o effeithiau’r sychder o bersbectif yr amgylchedd, rheoli tir, defnyddwyr dŵr, amaethyddiaeth, a darparwyr cyflenwadau dŵr.  Byddant yn adolygu’r camau gweithredu a gymerwyd mewn ymateb i’r sychder ac yn trafod y gwersi a ddysgwyd, i’w hystyried wrth reoli a chynllunio ar gyfer sychder yn y dyfodol.

Yn dilyn y cyflwyniadau, cynhelir sesiwn Holi ac Ateb.

I gofrestru ar gyfer y weminar ewch i: https://www.ciwem.org/events/the-2022-drought-experience-in-wales-webinar