Cynlluniau Amaeth-Amgylcheddol
Bydd cadwraeth a’r amgylchedd yn cael dylanwad sylweddol ar ddyfodol y diwydiant. Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth hwn o gymorth i’n aelodau wrth ddygymod â’r neiwidadau hyn sydd ar y gorwel.
Pecyn Glastir Grantiau Bach
Cost - £250 (pob ffenest ymgeisio)
Mae’r cynllun Glastir Grantiau Bach yn darparu hyd at £7,500 o gyllid tuag at waith cyfalaf, megis plannu perthi/gwrychoedd newydd, bondocio perthi/gwrychoedd a chau bylchau, plannu coed, a phlygu gwrychoedd. Yn ogystal, mae gwaith cyfalaf ategol ar gael, megis ffensio, cafnau dŵr a giatiau a bydd cyllid hefyd ar gyfer adfer waliau cerrig sych ym mis Mai.
Bydd ein tîm yn eich helpu i ddeall holl reolau’r cynllun, gyda chefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses ymgeisio. Gall un camgymeriad ar y gwaith papur, neu wall yn eich cais am waith cyfalaf, arwain at gosbau llym y gellid eu hosgoi.
- Trafod opsiynau posib ar gyfer eich fferm
- Cyflwyno ceisiadau
- Derbyn cytundebau
- Tynnu lluniau geotag - cyn ac ar ôl
- Hawlio a chyflwyno gwaith cyfalaf
Pecyn Glastir Llawn
Cost - £400 y flwyddyn
Mae gennym staff ymroddedig yn barod i roi tawelwch meddwl i chi nad ydych yn methu unrhyw negeseuon neu wybodaeth bwysig. Bydd ein tîm yn eich helpu i weithio drwy’r rheolau a chadw at ofynion prosiect gyda chefnogaeth ac arweiniad trwy gydol y broses ymgeisio. Gall camgymeriad bach ar y gwaith papur neu wall yn eich cais am waith cyfalaf arwain at gosbau costus y gellir eu hosgoi.
- Gwasanaethau diderfyn gan arbenigwyr amaeth-amgylcheddol trwy gydol y flwyddyn
- Diweddaru Dyddiaduron Glastir
- 2 ymweliad fferm
- Hawlio Gwaith Cyfalaf
- Ysgrifennu a phrosesu apeliadau.
- Profi Pridd
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a ni yma.