Ar ddechrau blwyddyn arall, bydd Undeb Amaethwyr Cymru unwaith eto yn cynnal digwyddiadau brecwast niferus ledled Cymru ym mis Ionawr i ddod â phobl ynghyd, a chodi arian tuag at achosion da.
Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i bobl o bob oed a chefndir ddod at ei gilydd a mwynhau plât o gynnyrch safonol wrth rannu eu meddyliau cyn dechrau diwrnod prysur.
Mae’r brecwastau’n rhan o wythnos Brecwast Ffermdy blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru - sydd bellach yn ddigwyddiad nodedig yng nghalendr amaethyddol Cymru - gyda 24 o ddigwyddiadau brecwast yn cael eu cynnal ledled Cymru fis Ionawr.
Bydd yr wythnos hefyd yn nodi dwy garreg filltir i Undeb Amaethwyr Cymru, gan ddathlu saith deg mlynedd ers ei sefydlu yn 1955, a phymtheg mlynedd ers i’r digwyddiadau brecwast sirol gael eu treialu am y tro cyntaf yn Sir Gaernarfon yn 2010.
Caiff y brecwastau eu cynnal mewn ffermdai, neuaddau pentref, caffis a marchnadoedd da byw ar hyd yr wythnos, yn ogystal â digwyddiad ym Mae Caerdydd, gan ddod â gwleidyddion a llunwyr polisi ynghyd. Bydd y digwyddiad, a noddir gan Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS, hefyd yn cynnwys araith gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca Davies AS.
Bydd yr elw o’r brecwastau yn mynd i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ac elusennau lleol eraill. Llynedd, cododd wythnos frecwast Undeb Amaethwyr Cymru dros £17,500 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Wrth wneud sylw cyn wythnos frecwast dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:
“O Langefni i Lanarthne, mae’r wythnos brecwast ffermdy yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, gan roi cyfle i ffermwyr ddechrau'r dydd mewn ffordd gadarnhaol yng nghwmni teulu, ffrindiau a chymdogion, a chodi arian at ein hachosion elusennol.
"Bydd wythnos frecwast eleni hyd yn oed yn fwy arbennig, gyda Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu yn 1955. Mae llawer wedi newid dros y saith deg mlynedd diwethaf, yn amaethyddol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol, ond mae ymrwymiad Undeb Amaethwyr Cymru at ein ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig yn parhau’n gadarn.
"Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at ganran dda arall eto. Mae’n deg dweud bod dechrau iach nid yn unig yn dda i galon iach ond hefyd i feddwl iach.”
Ychwanegodd Guto Bebb, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru:
“Gyda dyddiau byr, tywydd llwm a digon i’w wneud ar fuarth y fferm, yn aml gall Ionawr fod yn gyfnod digon heriol i’n ffermwyr. Mae’r wythnos frecwast felly’n cynnig cyfle i bobl ddod at ein gilydd dros bryd o fwyd cynnes, maethlon a chael sgwrs.
"Ar gyfnod anodd i’r sector, rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at y digwyddiad yng Nghaerdydd eto eleni – gan sicrhau bod gwleidyddion a llunwyr polisi yn clywed anghenion a gofynion y sector amaethyddol yng Nghymru.”