Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo trwydded brechlynnau y Tafod Glas

Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo trwydded brechlynnau y Tafod Glas

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod wedi cymeradwyo defnydd brys o dri brechlyn y Tafod Glas o 1 Mawrth eleni er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws.

Bydd y brechlynnau ar gael ar bresgripsiwn a'u gwerthu o filfeddygfeydd a gallant gael eu rhoi gan geidwaid da byw eu hunain, gan ddilyn canllawiau priodol.

Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn lledaeniad parhaus achosion firws y Tafod Glas (BTV-3) yn Lloegr ers mis Awst 2024. Ar 4 Medi 2024, cafodd tri brechlyn BTV-3 heb awdurdod ganiatâd Ysgrifennydd Gwladol Defra i'w ddefnyddio mewn argyfwng yn y DU.  Cafodd y brechlynnau eu trwyddedu i'w defnyddio yn Lloegr y llynedd ac mae penderfyniad Gweinidogion Cymru i roi trwydded yn golygu bod modd eu defnyddio yng Nghymru bellach.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Cafodd y penderfyniad hwn i drwyddedu'r brechlynnau hyn ei lywio gan ein hasesiad risg diweddar sy'n nodi bod Cymru bellach mewn perygl uchel o brofi achosion y Tafod Glas eleni. Ein prif nod yw cadw'r Tafod Glas allan o Gymru drwy fioddiogelwch, gwyliadwriaeth a chyrchu da byw yn ddiogel.

"Mae Cymru'n parhau i fod yn rhydd o BTV-3, ond mae'n bwysig bod yn barod. Mae brechlynnau'n ddull pwysig i ffermwyr Cymru leihau effaith y clefyd hwn yn eu buchesi a'u diadelloedd.

"Byddwn yn annog ffermwyr sy'n ystyried brechu i ymgynghori â'u milfeddyg i drafod a yw brechu yn briodol i'w da byw.”

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi galw’n flaenorol  i’r brechlynnau hyn fod ar gael, ac wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd Swyddog Polisi UAC, Elin Jenkins: “Gyda’r gwanwyn yn nesáu a chynnydd disgwyliedig mewn gweithgaredd gwybed mân sy’n trosglwyddo’r haint, mae’r Tafod Glas yn parhau i fod yn fygythiad sylweddol i’n diwydiant.

"Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi argymell cyflwyno brechlyn fel cam paratoadol hollbwysig i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac rydym felly yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

"Er nad yw’r brechlyn hwn yn ddatrysiad terfynol, gall chwarae rôl hollbwysig wrth gyfyngu ar effaith BTV-3 ar fuchesi a phreiddiau Cymru.

"Rydym yn annog ffermwyr Cymru i ymgyfarwyddo â chanllawiau brechu Llywodraeth Cymru a pharhau i fod yn wyliadwrus yn ogystal â chymryd mesurau rhagweithiol i liniaru effaith a lledaeniad y clefyd hwn."

Am rhagor o wybodaeth am y brechlynnau ewch i wefan Llywodraeth Cymru drwy’r ddolen isod:

https://www.llyw.cymru/llywodraeth-cymrun-cymeradwyo-trwydded-brechlynnau-y-tafod-glas-ddefnydd-gwirfoddol