Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi mynegi ei siom yn dilyn cyfarfod â Thrysorlys y DU ynglŷn â newidiadau i Ryddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes, a gyhoeddwyd yn ystod Cyllideb yr Hydref ac a fydd yn dod i rym o Ebrill 2026.
Mewn cyfarfod â’r Trysorlys yn Llundain ddydd Mawrth 18 Chwefror, tynnodd Ian Rickman sylw at y cwestiynau a’r pryderon sylweddol ynglŷn â’r newidiadau pellgyrhaeddol i dreth etifeddiant, yn ogystal â’r straen emosiynol y mae’r newidiadau yn eu cael ar ffermwyr Cymru.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn dilyn lobïo sylweddol gan Undeb Amaethwyr Cymru ynglŷn â’r newidiadau, gan gynnwys gohebiaeth helaeth i’r Prif Weinidog, Gweinidog y Trysorlys James Murray AS a chyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig.
Yn flaenorol, roedd y Prif Weinidog wedi mynnu na fydd “mwyafrif helaeth” o ffermwyr yn cael eu heffeithio gan y newidiadau, gyda’r Trysorlys yn honni yn flaenorol ei bod yn disgwyl i tua 500 o stadau ar draws y DU gael eu heffeithio gan y newidiadau bob blwyddyn.
Ochr yn ochr â rhanddeiliaid a busnesau eraill yn y sector, mae Undeb Amaethwyr Cymru fodd bynnag wedi codi pryderon sylweddol ynglŷn â pha mor ddibynadwy yw’r ffigurau hyn, gyda dadansoddiad blaenorol gan Undeb Amaethwyr Cymru yn awgrymu y gallai’r cynigion Treth Etifeddiant newydd effeithio ar gynifer â 48% o dderbynwyr Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yng Nghymru.
Mae dadansoddiad mwy diweddar gan y CAAV yn awgrymu y bydd gan 200 o drethdalwyr ffermio Cymru rwymedigaeth Treth Etifeddiant yn deillio o fudd gostyngol APR a BPR bob blwyddyn - sy’n cyfateb i dros 6,000 o drethdalwyr ffermio Cymru yr effeithir arnynt dros genhedlaeth o 30 mlynedd.
Yn ogystal â chwestiynu ffigurau’r Trysorlys, tynnodd Ian Rickman sylw hefyd at lawer o’r cynigion y mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi’u cyflwyno i ddiwygio newidiadau’r llywodraeth er mwyn diogelu ffermydd teuluol a diogelwch bwyd y DU.
Mae’r newidiadau arfaethedig hyn yn cynnwys yr egwyddor na ddylai asedau ffermio/amaethyddol gael eu trethu wrth gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall er mwyn gallu ffermio eu hunain neu ei osod i deulu ffermio arall. Fodd bynnag, os bydd cenhedlaeth yn penderfynu gwerthu’r asedau hynny, dylid trethu’r asedau hynny wrth gael eu gwerthu.
Byddai’r newidiadau pragmatig hyn yn helpu i ddiogelu ffermydd teuluol, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw fylchau sy’n bodoli ar hyn o bryd yn y ddeddfwriaeth Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes. Gwrthododd Llywodraeth y DU unrhyw awgrymiadau, gan gadarnhau’r bwriad i barhau â'r newidiadau a gynigiwyd yn wreiddiol.
Wrth wneud sylw yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Rydym yn siomedig iawn gan ymateb diystyriol y Trysorlys i’n dadleuon yn erbyn effaith andwyol y newidiadau i’r Dreth Etifeddiant ar ffermydd teuluol Cymru.
"Ynghyd a chynrychiolwyr ffermio arall y DU, amlinellasom yn glir y dinistr economaidd, emosiynol a diwylliannol y gallai’r newidiadau hyn ei achosi i ffermydd a chymunedau gwledig ledled Cymru, yn ogystal â’n cynhyrchiant bwyd domestig. Yn hollbwysig, gwnaethom gynnig ein parodrwydd i gydweithio â’r llywodraeth a rhanddeiliaid y diwydiant i fynd i’r afael â’r diffygion yn y polisi difeddwl hwn.
"Yn anffodus mae’n ymddangos bod y dadleuon hyn wedi ei diystyru. Mae cwestiynau difrifol am ffigyrau’r Trysorlys yn parhau, ac o ystyried y sefyllfa economaidd sy’n wynebu’r sector yng Nghymru, ni fyddai biliau treth etifeddiant o’r fath yn fforddiadwy i gyfran sylweddol o ffermydd teuluol. Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am y newidiadau hyn, a byddwn yn cysylltu ymhellach â’n haelodaeth ynglŷn â’r ffordd orau ymlaen.”