Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi galw unwaith eto am gydnabod pwysigrwydd cynhyrchu bwyd a theuluoedd ffermio i economi, diwylliant, cymunedau a thirweddau Cymru, ac wedi annog Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (ETRA) i sicrhau y bydd y cymorth sy’n hanfodol er mwyn cynhyrchu bwyd diogel o ansawdd da yn parhau, er mwyn osgoi difrod anadferadwy i Gymru.
Wrth ymateb i Ymchwiliad ETRA i Fil Amaethyddiaeth (Cymru), pwysleisiodd UAC fod y diffyg sylw a roddwyd i gynhyrchu bwyd yn ymgynghoriad Brexit a’n Tir 2018 yn bryder mawr i aelodau UAC, ac ers refferendwm Brexit, mae UAC wedi dadlau’n gyson y dylai egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) gynnwys nid yn unig cynaliadwyedd economaidd ffermydd teuluol yng Nghymru, ond hefyd y gallu i gynhyrchu bwyd diogel ac olrheiniadwy mewn ffordd gynaliadwy.
Roedd UAC felly’n croesawu’r ffaith bod cynhyrchu bwyd wedi’i gynnwys yn yr Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a geir yn y Bil, ond mae’n dal i fod yn bryderus nad oes yna gyfeiriad uniongyrchol at lesiant economaidd busnesau ffermio yn yr Amcanion.
Mynegodd yr Undeb bryder hefyd fod yr Amcanion SLM a geir yn y bil wedi’u datblygu o ddiffiniad o SLM a bennwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Mae’r diffiniad cul hwn yn categoreiddio SLM fel ‘Y defnydd o adnoddau tir, gan gynnwys priddoedd, dŵr, anifeiliaid a phlanhigion, i gynhyrchu nwyddau i ddiwallu anghenion dynol newidiol, ochr yn ochr â chynnal a sicrhau potensial hirdymor yr adnoddau hyn a’u buddiannau amgylcheddol’.
Nid yw’r bwriad i seilio cynlluniau cymorth a chyfeiriad polisïau yn y dyfodol ar un diffiniad o SLM wedi newid ers y rhethreg ynghylch Ffermio Cynaliadwy a’n Tir. Er nad yw wedi’i gynnwys yn y Bil ei hun, mae’r diffiniad o SLM wedi’i gynnwys yn y memorandwm esboniadol, ac mae UAC o’r farn nad yw’r diffiniad presennol o SLM yn cydnabod, nac yn mynd i’r afael â’r cyd-destun ehangach y mae ffermio’n gweithredu oddi mewn iddo, ac yn cyfrannu ato.
Mae diffiniadau ehangach o SLM yn bodoli, sy’n fwy cynhwysfawr ac sy’n cydnabod rhyng-gysylltedd a rhyngddibyniaeth rheoli tir â bywoliaethau. Er enghraifft, mae diffiniadau megis un Banc y Byd yn cydnabod yr angen i integreiddio tir, dŵr, bioamrywiaeth a’r amgylchedd â’r galw cynyddol am fwyd a ffeibr, gan sicrhau, yn hollbwysig, eu bod hefyd yn cynnal bywoliaethau. Fel y cyfryw, mae diffiniad y Cenhedloedd Unedig o SLM yn rhy gul.
Mae’r diffiniad cul o ALM – a’r Amcanion SLM cysylltiedig – yn amlwg yn wahanol iawn i ddyheadau gwreiddiol y cymorthdaliadau amaethyddol. Lansiwyd Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE yn 1962 a chafodd ei gynllunio’n bennaf yn y lle cyntaf i sicrhau cyflenwad bwyd digonol a diogel. Yn sgil cydnabod yr angen am sectorau amaethyddol hyfyw a chyflenwadau bwyd sefydlog, pasiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Amaethyddiaeth 1947 Llafur, a ddisgrifiwyd gan Tom Williams, yr Ysgrifennydd Gwladol oedd yn gyfrifol am ei gyflwyno, fel un oedd â’r nod canlynol "...to promote a healthy and efficient agriculture capable of producing that part of the nation's food which is required from home sources at the lowest price consistent with the provision of adequate remuneration and decent living conditions for farmers and workers, with a reasonable return on capital invested."
Cafodd egwyddorion o’r fath eu crynhoi hefyd yng Nghytundeb Rhufain 1957, ac maent yn parhau i fodoli yn yr UE dan Gytundeb Lisbon yr Undeb Ewropeaidd. Felly, er nad yw UAC yn gwrthwynebu’r Amcanion SLM fel y cyfryw, mae’r Undeb o’r farn y byddai’n briodol ymestyn y rhestr i greu 5ed Amcan, sydd â’r nod penodol o sicrhau sefydlogrwydd economaidd teuluoedd ffermio. Ar hyn o bryd, serch y naratif ynghylch cynhyrchu bwyd cynaliadwy o fewn y Bil, does dim gwobrau uniongyrchol am ei gynhyrchu ar hyn o bryd; na chwaith unrhyw wobrau uniongyrchol am ddarparu bwyd diogel, olrheiniadwy, neu warchod diogelwch y cyflenwad bwyd yn fyd-eang.
Dywed UAC y dylid nodi hefyd y bydd yr Amcanion yn y Bil yn gosod cyfeiriad y polisi amaethyddol yng Nghymru dros y 15 i 20 mlynedd nesaf, ac mae’n hanfodol felly bod cydnerthedd economaidd yn rhan annatod o Amcanion y Bil, neu mi allai polisïau yn y dyfodol ddiwallu Amcanion y Bil ar draul bywoliaeth ffermwyr.
Lle nad yw hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio wedi’i gynnwys o fewn Amcanion yr ALM, bydd teuluoedd ffermio yng Nghymru’n agored i newidiadau polisi yn y dyfodol a roir ar waith dan yr un fframwaith ALM, ond heb fod dan unrhyw rwymedigaeth i ofalu am eu lles ariannol.