Mae ffermwyr yng Nghymru’n rhan o’r ateb o ran taclo’r argyfwng hinsawdd - dyna oedd neges allweddol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru cyn Cynhadledd Gwledydd Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP27), a gynhaliwyd rhwng 6ed - 18fed Tachwedd yn Sharm El Sheikh yn Yr Aifft.
Mae ffermwyr ar draws y wlad yn cymryd argyfwng yr hinsawdd a bioamrywiaeth o ddifrif, ac maent wrthi’n cyfrannu mewn ffordd bositif drwy ddiogelu, gwella ac ychwanegu at y storfeydd carbon presennol ar ffermydd, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd.
Er enghraifft, mae ffermwyr Cymru’n ymfalchïo yn eu hymdrechion i gynyddu carbon organig pridd glaswelltir, amddiffyn mawndiroedd rhag difrod drwy reoli lefelau pori a draenio, cymryd camau i reoli coetiroedd fferm presennol ac ystyried creu coetiroedd newydd, creu cynefinoedd bywyd gwyllt ar hyd cyrsiau dŵr, ymylon caeau a gwrychoedd, ac edrych ar allyriadau drwy gyfrifyddion carbon a gwella effeithlonrwydd.
Mae aelodau UAC wedi ymrwymo llawn cymaint ag eraill ledled y DU i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gymaint â phosibl, gan barhau i gynhyrchu bwyd maethlon, cynaliadwy. Nid yw eu rôl yn argyfwng yr hinsawdd yn un niweidiol, ond yn un o warchod, adfer a meithrin.
Er y bydd rhai, dros yr wythnosau nesaf, yn cymryd y cyfle i roi enw gwael i’r diwydiant a gwneud honiadau ffug am fwyta cig coch a chynnyrch llaeth, mae gan y diwydiant reswm da dros ddal ei ben yn uchel ac ymfalchïo yn y bwyd o ansawdd da a gynhyrchir yng Nghymru a ledled y DU.
Mae papurau diweddar grŵp o wyddonwyr, yn cynnwys arbenigwyr blaenllaw megis yr Athro Alice Stanton, Ffarmacolegydd Cardiofasgwlaidd o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Iwerddon, a’r gwyddonydd bwyd uchel ei barch o Wlad Belg, Yr Athro Frédéric Leroy, wedi cwestiynu’r data a gynhyrchwyd ar gyfer adroddiad EAT – Lancet (nas adolygwyd gan gyfoedion) y cyfeirir ato’n fynych, sy’n awgrymu bod bwyta cig coch yn wael i iechyd dynol.
Mae cig coch yn cynnwys maethynnau sy’n anodd eu canfod fel arall, ac mae arbenigwyr maeth fel yr Athro Stanton yn cyfeirio’n gyson at y buddiannau maethol hanfodol a geir mewn cig coch ar gyfer twf yr ymennydd a’r corff. Mae hi hefyd yn pwysleisio bod effaith amddiffynnol proteinau sy’n dod o anifeiliaid yn hanfodol, yn enwedig i blant bach, ac mae’n dadlau, serch nad yw’n beirniadu deiet llysieuol a fegan, bod pobl yn gorfod gweithio’n galetach i gael yr un maeth o’r rhain.
Mae UAC yn annog defnyddwyr i roi ystyriaeth ofalus i’r ffeithiau, boed y rheiny’n amgylcheddol neu’n faethol, a dwyn i gof mai rhan o’r ateb o ran taclo’r argyfwng hinsawdd yw ffermio yng Nghymru – nid y broblem.