Mae Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd wedi dod i gytundeb ar gyllideb yr UE ar gyfer 2023 fel y’i cynigiwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r cynnig yn ymwneud ag ymrwymiadau o €186 biliwn, a thaliadau o €168.7 biliwn. Mae hyn €1 biliwn yn fwy na’r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ym Mehefin.
Mae bron traean, sef €54.7 biliwn, ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin a Chronfa’r Môr, Pysgodfeydd a Dyframaeth Ewrop "to strengthen the resilience of the agri-food and fisheries sectors and to provide the necessary scope for crisis management.”
Roedd y comisiynydd amaeth Janusz Wojciechowskihe wedi dweud yn gynharach, mewn cyfweliad ar wasanaeth newyddion Comisiwn yr UE, Euractiv, nad oedd y PAC yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd, fel y dangosodd pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin. Dywedodd hefyd fod y PAC presennol wedi’i daenu’n rhy denau, a dylid anelu taliadau yn y dyfodol at ffermwyr a chynhyrchu bwyd.
Ers mis Ebrill eleni mae ffermwyr yn yr UE wedi derbyn €500 miliwn ychwanegol o gronfa argyfwng yr UE oherwydd effeithiau rhyfel Wcráin. Mae’r Comisiynydd Wojciechowskihe wedi dweud bod hyn yn debygol o ddigwydd eto y flwyddyn nesaf.
Mewn cyferbyniad, mae cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru wedi crebachu’n sylweddol ers i’r DU adael PAC yr UE, ac erbyn 2025 mi fydd amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru wedi derbyn tua £250 miliwn yn llai nag y byddai petai cyllideb PAC 2019 wedi bod yn un sefydlog. Mae yna bryderon pellach, serch bod llawer yn yr UE o’r un farn â’r Comisiynydd Wojciechowski's, yr hoffai llawer o wleidyddion y DU weld cyllid amaethyddol yn cael ei gwtogi ymhellach ar adeg o bryderon difrifol ynghylch diogelwch y cyflenwad bwyd yn byd-eang.