Ffermwyr Ifanc Iwerddon i gael Mwy o Gymorth o 2023
Mae Gweinidog Amaeth Iwerddon wedi dweud wrth ffermwyr ifanc yn Iwerddon y byddant yn cael cymorth dros y pum mlynedd nesaf, drwy gynllun strategol nesaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin a hefyd drwy Gyllid Cenedlaethol.
Defnyddir 3% o’r taliadau uniongyrchol yn Iwerddon i gynorthwyo ffermwyr ifanc. Mi allai hyn olygu bod y cyfraddau a delir i ffermwyr ifanc yn codi o €68/ha i €170/ha ar gyfer y 50 hectar cyntaf, ac ni fyddent yn gysylltiedig â hawliau. Byddai ffermwyr ifanc hefyd yn cael cymorth ar gyfradd uwch o 60% ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf.
Gwerthu tir ffermio yn Seland newydd i blannu coed yn bryder i ffermwyr a chymunedau gwledig
Mae Beef & Lamb New Zealand yn dal i fod yn bryderus ynghylch nifer ac arwynebedd tir y ffermydd cyfan sy’n cael eu gwerthu ar hyn o bryd yn y wlad i blannu coed, gyda nifer ohonynt yn mynd i brynwyr tramor. Mae hyn yn arwain at brisiau tir uwch, llai o gyflogaeth mewn ardaloedd gwledig, a gostyngiad yn incwm allforio Seland Newydd.
Dros y pedwar mis diwethaf mae bron i 12,000 hectar o dir ffermio defaid a gwartheg yn Seland Newydd wedi’i gymeradwyo i’w werthu i fuddsoddwyr tramor ar gyfer plannu coed, yn dilyn cyfanswm gwerthiant o dros 50,000 hectar yn 2021, a 35,000 a 37,000 hectar, y naill yn 2020 a’r llall yn 2019.
Cytundeb masnach UE-Awstralia’n bryder i allforwyr Cig Oen Cymru
Rhybuddiodd arbenigwr polisi masnach ryngwladol fynychwyr cynhadledd Hybu Cig Cymru (HCC) am yr effaith bosib ar allforwyr Cig Oen Cymru i’r Undeb Ewropeaidd os bydd cytundeb masnach yn cael ei ffurfio rhwng Awstralia a’r UE.
Rhybuddiodd mai dim ond mynediad cyfyngedig sydd gan Awstralia ar hyn o bryd a phetai’r cytundeb yn golygu cynyddu’r cwota, mi fyddai hynny, yn anorfod, yn disodli cig oen y DU.