Mae datganiadau yn Senedd San Steffan gan y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, George Eustice, yn cadarnhau bod cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi rhoi mynediad enfawr i’r gwledydd hynny i farchnadoedd bwyd y DU, yn gyfnewid am fuddiannau pitw.
Wrth siarad yn San Steffan yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Eustice wrth yr Aelodau Seneddol fod y DU “wedi ildio gormod o lawer yn gyfnewid am rhy ychydig o lawer” serch dechrau’r trafodaethau “gyda’r llaw gorau posib”. Honnodd hefyd fod y trafodaethau wedi’u tanseilio gan y cyn Weinidog Liz Truss, a fynnodd fod cytundeb yn cael ei ffurfio ag Awstralia cyn uwchgynhadledd y G7 yng Nghernyw ym Mehefin 2021.
Mae Mr Eustice wedi cadarnhau popeth y mae UAC wedi’i ddweud am y cytundeb hwn. Roedd y wedd bositif a roddwyd ar y cytundebau hyn ar y pryd gan Boris Johnson a Gweinidogion ac Aelodau San Steffan yn nonsens llwyr.
Mae UAC wedi gwybod a dweud yn glir o’r cychwyn bod y cytundebau hyn yn bradychu ffermwyr a diogelwch cyflenwad bwyd y DU, a hynny yn gyfnewid am fawr ddim. Rhoddodd y DU fynediad eang a llwyr yn y pen draw i’w marchnadoedd cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth, yn gyfnewid am fuddiannau pitw, a’r cyfan er mwyn gallu rhyddhau datganiadau gwleidyddol ffafriol i’r wasg ar y pryd.
Dywedodd Mr Eustice wrth y Senedd hefyd fod trafodwyr Awstralia wedi cael rhwydd hynt i “siapio telerau” y cytundeb, a galwodd am ddiswyddo pennaeth yr Adran Masnach Ryngwladol, gan ddweud fod nawr yn “gyfle da i symud ymlaen a chael math gwahanol o drafodwr - un sy'n deall buddiannau Prydain yn well."
Mae’r cytundebau’n cael eu cydnabod ledled y byd fel rhai hynod o wan, ac maent yn golygu bod y DU yn destun sbort ar y llwyfan rhyngwladol.
Nid oes gan yr Aelodau Seneddol sy’n mynnu amddiffyn y cytundebau hyn goes i sefyll arni bellach am fod San Steffan wedi cael y gwir ‘o lygad y ffynnon’.
Dylai’r drefn newydd yn San Steffan sicrhau nawr bod unrhyw gytundebau yn y dyfodol gyda gwledydd a blociau masnachu eraill yn mabwysiadu agwedd llawer cadarnach, sy'n gwarchod ein ffermwyr a’n cyflenwad bwyd - nid eu tanseilio.
Mae rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin wedi dangos pa mor fregus yw diogelwch cyflenwad bwyd y DU, ac mae angen i’r DU newid ei hagwedd tuag at fasnachu rhyngwladol, fel y galwyd amdano yng nghynllun pum pwynt UAC yng Ngorffennaf 2022.