Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ymateb i’r cynigion diweddaraf ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn dilyn ymgynghori helaeth â’i haelodau ledled Cymru, gan bwysleisio, serch bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, bod yna bryderon a rhwystrau mawr yn bodoli o hyd.
Yn ei hymateb, pwysleisiodd yr Undeb fod ei haelodau’n croesawu’r fframwaith SFS cyffredinol a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar yr egwyddor o ‘daliad llinell sylfaen’ ar gyfer pob ffermwr sy’n cyflawni ‘Gweithredoedd Sylfaenol’, sydd ddim yn annhebyg i’r ‘taliad sefydlogrwydd’ y bu UAC yn lobïo amdano am flynyddoedd, gyda ffrydiau refeniw ychwanegol ar gyfer ‘Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol’.
Croesawyd yn gyffredinol y bwriad i wneud gwell defnydd o ddata RPW Ar-lein, a chasglu data newydd drwy hunan-fonitro a thechnoleg newydd, i leihau’r angen am gynghorwyr neu gontractau cymhleth sydd angen llawer o adnoddau, a fyddai’n lleihau’r gyllideb amaethyddol. Croesawyd hefyd yr egwyddorion cynllunio, sy’n anelu at ‘gadw ffermwyr ar y tir’ a chydnabod bod ‘cynhyrchu bwyd yn hanfodol i’n cenedl’.
Fodd bynnag, cododd yr aelodau amryw o bryderon ynghylch manylion y cynllun, sef yn bennaf, pa mor ymarferol ydy hi fod niferoedd mawr yn cyrraedd y trothwy coetir o 10% a’r trothwy cynefin o 10%. Mi fyddai hyn ar ben y codiad rhagrithiol i’r llinell sylfaen reoleiddiol ar gyfer ffermwyr Cymru yn sgil cyflwyno Safonau Gofynnol Cenedlaethol, ar adeg o gwotâu cynyddol o fewnforion, a gynhyrchir yn ôl safonau amgylcheddol llawer is.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos pa mor agored yw cadwyni cyflenwi’r DU i argyfyngau byd-eang, mewn byd hynod o ansefydlog. Mae ffermwyr yng Nghymru hefyd yn wynebu pwysau difrifol, gydag ‘agflation’ (chwyddiant sy’n gysylltiedig â chostau amaethyddol cynyddol) yn cyrraedd 23.5% y flwyddyn yng Ngorffennaf. Mae UAC felly yn croesawu ymateb positif Llywodraeth Cymru i rybuddion yr Undeb yn ei hymateb i’r ymgynghoriad blaenorol, drwy ymrwymo i’r taliad llinell sylfaen hwn i ddarparu sefydlogrwydd hanfodol.
Ar hyn o bryd mae Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn cynrychioli 75% o’r gyllideb (gwaddol PAC) ac mae’n cyfrif am 80% o incwm ffermydd Cymru ar gyfartaledd, gan ddangos pa mor ddibynnol yw busnesau fferm ar y ddarpariaeth hon, sy’n galluogi’r busnesau hynny i ddal ati i gynhyrchu bwyd a nwyddau amgylcheddol, a chwarae rôl ganolog o fewn cadwyni cyflenwi sy’n cyflogi cannoedd o filoedd o bobl.
Gyda hyn mewn golwg, mae aelodau’r Undeb yn argymell y dylid neilltuo mwyafrif y gyllideb ar gyfer y taliad llinell sylfaen, ac er mwyn i’r cynllun lwyddo, y dylai’r Gweithredoedd Sylfaenol fod yn ymarferol ac yn bosibl i’r rhan fwyaf o ffermydd, gan gynnwys tenantiaid a chominwyr.
Er mai darparu taliad llinell sylfaen sylweddol oedd prif bryder yr aelodau, roedd nifer ohonynt yn teimlo mai’r gofyniad bod ffermwyr ‘ag o leiaf 10% o orchudd coed ar eu fferm’ oedd y ‘Weithred Sylfaenol’ fwyaf heriol, a chwbl anymarferol neu amhosibl i nifer o ffermwyr.
Yn enwedig y rhai sydd â chyfran fawr o’r fferm yn dir cynefin, tir arfordirol, tir sydd uwchlaw llinell y coed, tir hynod gynhyrchiol, tir comin neu dir dan denantiaeth, os ydy’r landlord un ai’n cadw’r coetir iddo’i hun neu’n gwrthod cytuno i newid defnydd tir o fewn y contract.
Roedd ymateb yr Undeb felly’n tynnu sylw at ddulliau amgen o leihau allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr ac atafaelu mwy o garbon ar dir ffermio - megis gwella ar y 410 o filiynau o dunelli o garbon organig pridd sydd wedi’i storio ar hyn o bryd ym mhriddoedd Cymru, canolbwyntio ar effeithlonrwydd cynhyrchu, neu ganiatáu i dir cynefin ychwanegol (megis mawndir) gymhwyso ar gyfer trothwyon. Bydd unrhyw golledion cyffredinol o ran gallu fferm i gynhyrchu yn cael effaith negyddol ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd, nawr ac yn y dyfodol, felly rhaid i’r cynigion weithio gyda’r system ffermio, nid yn ei herbyn.