Mae’r prosiect Cilrath Acre sy’n cael ei redeg gan Tir Coed yn darparu bwyd ffres iach ar gyfer Banc Bwyd Sir Benfro, ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau tyfu bwyd.
Mae Tir Coed o’r farn y gellid ailadrodd hyn ym mhob cymuned ledled Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Mae Tir Coed yn elusen sy’n cysylltu pobl â thir a choedwigoedd drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi, dysgu a llesiant awyr agored ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Maent wrthi’n asesu’r angen/galw am brosiectau tyfu/hyfforddiant/sgiliau bwyd ac yn chwilio am bartneriaid sy’n cefnogi gwirfoddolwyr neu gymunedau, a all ddarparu cyfranogwyr, mannau tyfu, sgiliau coginio neu straeon bwyd.
I fynegi’ch diddordeb drwy ateb tri chwestiwn syml, ewch i https://forms.gle/xE1cXmdkwCDqwthU6