Mae mesurau cadw dan do a bioddiogelwch gorfodol wedi bod yn eu lle ar gyfer dofednod ac adar caeth ers Dydd Gwener 2il Rhagfyr, mewn ymateb i’r risg cynyddol o ffliw adar yng Nghymru dros fisoedd y gaeaf.
O 2il Rhagfyr mae’n ofyniad cyfreithiol i geidwaid gadw eu hadar dan do neu ar wahân i adar gwyllt, a chynnal hunanasesiad bioddiogelwch gorfodol, a geir ar: https://www.llyw.cymru/rhestr-wirio-hunan-asesu-gorfodol
Ar hyn o bryd mae un achos agored o Ffliw Adar yng Nghymru, a hynny ger Bwcle yn Sir y Fflint, lle mae Parth Adar Caeth (Monitro) 3km yn ei le.
Mae Parthau Gwyliadwraeth a Gwarchod y ddau achos ger Amlwch a Dwyran ar Ynys Môn wedi’u diddymu erbyn hyn.
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-y-diweddaraf