Mae gan Sefydliad DPJ gyrsiau ar droed ar Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o fewn Amaethyddiaeth yng Nghymru.
Nod y sesiynau yw cynyddu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda chynghorion ymarferol i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth ymdopi.
Mae’r hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sy’n byw/gweithio o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru neu’n gweithio’n uniongyrchol â ffermwyr Cymru.
Mae’r sesiynau’n dair awr a hanner o hyd a byddant yn helpu unigolion o fewn y sector i allu adnabod yr arwyddion pan fydd rhywun yn dioddef o iechyd meddwl gwael, sut i’w helpu, sut i’w hannog i gael cymorth, a hefyd sut i ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain.
Digwyddiadau sydd i ddod:
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl
Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022 18:00
Ar-lein
Am Ddim
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o Fewn Amaethyddiaeth yng Nghymru
Dydd Llun, 5 Rhagfyr 13:00
Ar-lein
Am Ddim
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (Pwllheli)
Dydd Iau, Rhagfyr 15, 18:00
Digwyddiad wyneb yn wyneb
Y Madryn, Chwilog
Am Ddim
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sefydliad DPJ