Y niferoedd bach sy’n rhan o gynlluniau sy’n disodli’r BPS yn Lloegr yn bryder i gymunedau trawsffiniol yng Nghymru

Hyd yn hyn mae’r Cymhelliad Ffermio Cynaliadwy (SFI) a lansiwyd yn Lloegr ym Mehefin y llynedd, i gymryd lle Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), wedi talu 224 o ffermydd yn unig, yn ôl ffigurau a ryddhawyd yn answyddogol gan bapur newydd The Guardian.  Cafodd taliadau BPS i ffermwyr yn Lloegr eu cwtogi yn 2021 a’r bwriad yw eu diddymu’n llwyr erbyn 2027.  Mae’r cyfanswm o 224 o ffermydd sy’n derbyn taliadau SFI yn cyfrif am 0.2% yn unig o’r 102,000 o hawlwyr BPS.

Mae gweinidog ffermio DEFRA, Mike Spencer, wedi dweud fod yr arian a gymerwyd o’r BPS wedi bod ar gael i ffermwyr drwy grantiau unigol a chynlluniau parhaus.  Mae’r ffaith mai dim ond nifer fach sydd wedi manteisio ar yr SFI wedi arwain at feirniadaeth ynghylch diffyg hyder, yn sgil diffyg manylion am y cyfraddau tâl a’r safonau gofynnol.

O 2023, cyflwynwyd taliad newydd o £20 yr hectar ar gyfer y 50 hectar cyntaf, i gwrdd â chostau cymryd rhan yn y cynllun SFI, a bwriedir ychwanegu mwy o opsiynau.

Mae’r gostyngiad yn y taliadau BPS, a’r niferoedd bach sy’n manteisio ar y cynllun SFI yn debygol o gael effaith ehangach ar draws yr economi wledig, gan adleisio’r union beth y mae UAC wedi rhybuddio amdano’n gyson, gan gynnwys mewn ymatebion i ymgynghoriadau a gynhaliwyd ar gynigion yng Nghymru a Lloegr.

Mae UAC wedi rhybuddio’n gyson yn erbyn lleihau taliadau BPS nes bod cynllun cwbl weithredol ar gael i gymryd ei le.  Yn ei hymateb i ‘Health and Harmony’, sef cynigion Defra yn Chwefror 2018 i ddiwygio amaethyddiaeth, dywedodd UAC:

‘...little more than lip-service has been paid to the wellbeing of individuals, farming families, rural businesses and the rural and wider economy, as well as others involved in agricultural and food supply chains…we oppose any intermediate or long term plans to reduce direct payments to zero in the absence of the introduction of properly investigated policies which will mitigate the otherwise severe consequences of abandoning direct support for family farms and rural businesses.’

Mi fydd y pontio yn Lloegr yn ddiau yn cael effaith ar aelodau trawsffiniol UAC, sy’n ffermio tir yng Nghymru a Lloegr, ac mae UAC yn annog Defra i adolygu ei bolisïau ar frys er mwyn gwarchod cymunedau gwledig trawsffiniol, yn Lloegr ac yma yng Nghymru.