Mae ffigurau a ryddhawyd gan lywodraeth Iwerddon yn dangos bod allforion bwyd i’r DU wedi cynyddu’n sylweddol yn 2022, gan gyrraedd €5.4 biliwn, sef bron €1 biliwn o gynnydd o un flwyddyn i’r llall. Cafodd cyfanswm uwch nag erioed, sef gwerth €16.7 biliwn o fwyd, diodydd a chynnyrch garddwriaethol ei allforio o’r Weriniaeth y llynedd, i fyny 22% neu €3 biliwn ar y flwyddyn flaenorol, gyda 32% yn cael ei allforio i’r DU fel y farchnad sengl fwyaf. Cafodd 34% ei allforio i’r UE, a’r 34% arall i farchnadoedd rhyngwladol.
Gellir priodoli’r cynnydd mewn allforion bwyd a diodydd i’r prisiau uwch fesul uned, yn sgil chwyddiant a chostau mewnbwn cynyddol, a chynnydd ym meitniau’r nwyddau a allforiwyd. Cynyddodd gwerth y bwyd a’r diodydd a allforiwyd i’r DU ar draws y rhan fwyaf o’r categorïau.
Cododd gwerth Bwydydd Wedi’u Paratoi ar gyfer y Defnyddiwr i’r DU o 14%, i €2 biliwn, gan gynnwys cig eidion a chig dofednod gwerth ychwanegol, melysion a phrydau cyfleus yn bennaf. Cynyddodd allforion Cynnyrch Llaeth Iwerddon i’r DU o 39%, i €1.2 biliwn, gyda chaws a menyn yn perfformio orau, ac yn cyfrif am 50% o’r allforion. Cynyddodd allforion cig eidion o Iwerddon i’r DU o 15% gan gyrraedd €1.1 biliwn, sef 43% o holl allforion cig eidion Iwerddon. Cynyddodd allforion cig defaid Iwerddon 15% o un flwyddyn i’r llall, i €78 miliwn, a hynny’n rhannol am fod gan rhai o broseswyr cig oen mawr Iwerddon gyfleusterau yn y DU hefyd, a’u bod am wneud y defnydd mwyaf o’r rheiny. Cynyddodd allforion garddwriaethol Iwerddon i’r DU o 3% yn 2022, i €276 miliwn, gyda madarch yn cyfrif am dros hanner y gwerth hwnnw. Gwelwyd cynnydd o 4% yn y diodydd o Iwerddon, i €276 miliwn.
Gyda’r DU yn gweithredu y tu allan i undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn, roedd yna bryder ar un adeg yn Iwerddon am y posibilrwydd o rwystrau masnachu, ond mae ffigurau 2022 yn awgrymu bod y pryderon hynny’n rhai di-sail. I helpu busnesau bwyd a diodydd Iwerddon sy’n allforio i’r DU, dywed asiantaeth marchnata bwyd Iwerddon, Bord Bia, ei bod hi’n parhau i fuddsoddi’n helaeth mewn astudiaethau dealltwriaeth o ddefnyddwyr a gwybodaeth am y farchnad.