Comisiynydd Amaeth yr UE yn galw am fwy o gyllideb

Mae Comisiynydd Amaeth yr UE, Janusz Wojciechowski wedi dadlau dros gynyddu cyllideb y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar gyfer y cyfnod nesaf, sy’n dechrau yn 2028.  Wrth siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop ar 9fed Ionawr, ac yna’n nes ymlaen yng nghyfarfod llawn Senedd Ewrop ar 17eg Ionawr, cyflwynodd ei ddadl dros gynyddu’r gyllideb ar gyfer cymorthdaliadau fferm

Rhai misoedd yn gynharach, mewn cyfweliad â gwasanaeth newyddion Comisiwn yr UE, Euractiv, dywedodd Mr Wojciechowski nad oedd y gyllideb PAC yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyflenwad bwyd, a bod hynny wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig Covid-19 a’r rhyfel yn Wcráin.  Dywedodd hefyd fod y PAC presennol yn cael ei ledaenu’n rhy denau a dylid cyfeirio taliadau yn y dyfodol at ffermwyr a chynhyrchu bwyd.

Wrth siarad yn ystod y mis hwn, dywedodd fod lefelau chwyddiant uchel yn erydu’r gyllideb PAC, a bod pob hyblygrwydd dan y fframwaith presennol i geisio lliniaru effaith chwyddiant uchel eisoes wedi’i roi ar waith.  Dadleuodd hefyd nad oedd y cynnydd a welwyd ym mhrisiau bwyd yn ddigon i wrthsefyll y cynnydd mewn costau mewnbwn, ac nad oedd y refeniw ffermio’n codi digon i wneud iawn am yr erydiad yn y taliadau PAC yn sgil chwyddiant.

Pwysleisiodd fod angen cyllideb gryfach i ddiogelu “food security, farming and rural communities and environmental protection.” Mae’r PAC yn werth €270 biliwn ac mae trafodaethau eisoes ar droed ar gyfnod rhaglennu nesaf yr UE, sef 2028-2035.