Crynodeb o Newyddion Ionawr 2023

Cynnydd yn y mewnforion cig oen o Seland Newydd yn effeithio ar Fasnach Cig Oen y DU

Mae cynnydd o 11% yn y mewnforion cig oen wedi’i rewi o Seland Newydd yn 2022 yn golygu bod prisiau cig oen y DU wedi gostwng i’w lefel isaf mewn deufis.  Mae’r gostyngiad hwn wedi dod ar adeg pan mae ŵyn yn cael eu pesgi ar ddwysfwyd yn bennaf, ac mae pris hwnnw wedi codi’n sylweddol, o tua 30%, dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ochr yn ochr ag amgylchedd manwerthu anoddach oherwydd yr argyfwng costau byw, mae cwymp yn y prisiau pwysau byw a phwysau marw, yn ogystal â phrisiau ŵyn stôr, ar adeg pan mae prisiau fel arfer wedi codi yn y gorffennol, yn peri pryder o fewn y sector defaid.

Cymeradwyo Cynlluniau Strategol olaf PAC

Ar 13 Rhagfyr, cymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd Gynllun Strategol olaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).  Cynllun Strategol yr Iseldiroedd oedd yr un olaf o’r 27 o aelod-wladwriaethau’r UE i gael ei gymeradwyo, a bydd yn mynd o 1af Ionawr 2023 hyd at ddiwedd 2027.  Y mis diwethaf, cafodd Cynlluniau Strategol Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) Rwmania a Bwlgaria eu cymeradwyo. 

Bydd cyfanswm y gyllideb gyhoeddus a neilltuir i ffermwyr a chymunedau gwledig yn €307 biliwn ar gyfer y cyfnod pum mlynedd.  Neilltuir €98 biliwn i roi camau buddiol ar waith ar gyfer yr hinsawdd, bioamrywiaeth, ansawdd dŵr, pridd, aer, a lles anifeiliaid.  Yn ogystal, neilltuir 24% o’r holl daliadau uniongyrchol ar gyfer cynlluniau eco, a bydd 48% o’r gwariant datblygu gwledig yn cefnogi nodau amgylcheddol a nodau o ran yr hinsawdd.

O fewn pob un o’r cynlluniau strategol, un o’r prif amcanion yw ceisio sicrhau incwm fferm ymarferol, a chydnerthedd y sector amaethyddol ar draws yr UE, er mwyn gwella diogelwch hirdymor y cyflenwad bwyd a sicrhau amrywiaeth amgylcheddol, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd economaidd creu cynnyrch amaethyddol.

 

Sefydliad DPJ yn dathlu 5ed pen-blwydd  

Mae Sefydliad DPJ wedi dathlu pumed pen-blwydd ei linell gymorth ‘Rhannwch y Baich’.  Pwysleisiodd y trefnwyr bwysigrwydd y llinell gymorth hanfodol hon i ffermwyr Cymru.  Cafodd Sefydliad DPJ ei sefydlu ychydig dros chwe blynedd yn ôl gan Emma Picton-Jones yn dilyn marwolaeth ei gŵr Daniel drwy hunanladdiad.  Ers hynny, mae’r sefydliad wedi sefydlu gwasanaeth ledled Cymru gyfan sy’n darparu cymorth 24/7 i bobl sydd ei wir angen.  

Mae’r elusen yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl rhad ac am ddim; mae’r sesiwn tair awr a hanner yn caniatáu i bobl ddysgu sut y gallant gefnogi eraill yn y gymuned ffermio, ac adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael.  Maent hefyd yn rhedeg sesiynau profedigaeth a galar rhad ac am ddim.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

 

Hwngari’n ymestyn ei pholisi capio prisiau bwyd i geisio atal chwyddiant

Yn Chwefror 2022 rhoddodd llywodraeth Hwngari gap ar bris llaeth, siwgr, blawd, olew blodyn yr haul, coes porc a brest cyw iâr, i geisio amddiffyn aelwydydd rhag y cynnydd aruthrol mewn costau, a chapiwyd prisiau tanwydd a chyfraddau morgeisi hefyd.  Ar ddiwedd 2022, cafodd y cap ar brisiau ei ymestyn, gan rewi prisiau wyau ffres a thatws tan ddiwedd 2023.

Mae’r cam hwn yn golygu na all y pris manwerthu gros ar gyfer y ddau gynnyrch hyn fod yn uwch na’r pris manwerthu gros a osodwyd gan y masnachwr ar 30ain Medi 2022, ar gyfer y cynnyrch a werthir mewn siopau ac archfarchnadoedd a thrwy archebion post.  Byddai’r mesur yn gostwng pris wyau o 25% a phris tatws o 10%.

Mae ffigurau swyddogol yn dangos bod prisiau cynnyrch bwyd yn Hwngari ym mis Tachwedd i fyny 43.8% o un flwyddyn i’r llall.  Mae’r farn wedi’i rhannu o ran p’un ai fydd y capio prisiau’n gweithio neu’n gwneud chwyddiant yn waeth, gyda manwerthwyr yn codi prisiau mathau eraill o gynnyrch i wneud iawn am y colledion ar y prif gynhyrchion hyn.