Mae datganoli’n darparu cyfle i greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni – dyna oedd y neges allweddol a gyflwynwyd gan UAC wrth gwrdd ag Aelodau’r Senedd yn nigwyddiad Brecwast Fferm blynyddol yr Undeb yng Nghaerdydd.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yn yr Eglwys Norwyaidd Ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023 pwysleisiwyd bod gan y Bil Amaethyddiaeth sy’n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd – Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf ym myd amaeth ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd – y potensial i ddatrys nifer o’r problemau mae’r wlad yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Trwy ddiffiniad bron, mae ffermwyr yn gynhyrchwyr bwyd, ac mae’n werth cofio, yn ystod y Brecwast Senedd cyntaf i’w gynnal ers i’r pandemig droi’r byd cyfan wyneb i waered yn 2020, pa mor agos y daeth y wlad at weld cadwyni cyflenwi bwyd domestig a byd-eang hanfodol yn dymchwel yn ystod y pandemig.
Mae cadwyni cyflenwi’n dal i ddioddef sgil-effeithiau dyddiau tywyllaf y pandemig, ac ar ben hynny erbyn hyn mae effeithiau rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin – rhyfel lle mae Vladimir Putin wedi defnyddio nid yn unig ynni fel arf, ond bwyd yn ogystal – fel y tanlinellwyd yn ddiweddar yn Fforwm Economaidd y Byd.
Disgwylir i aelodau’r Senedd, fel gwleidyddion, ystyried a gweithredu ar heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang ar ran eu hetholwyr. Mae digwyddiadau byd-eang sy’n effeithio ar ffermio, ac felly ar bawb sy’n bwyta heddiw, wedi arwain at gynnydd o bron i 30% yng nghostau mewnbwn amaethyddiaeth yn y DU, tra bod prisiau bwyd i ddefnyddwyr wedi codi’n frawychus o sydyn – ond dim ond ffracsiwn o’r raddfa honno. Yn ogystal, mae’r newid yn yr hinsawdd yn creu amodau tyfu anodd i ffermwyr, gyda 2022 yn un o’r blynyddoedd cynhesaf ar gofnod yn y DU.
Mae hyn oll yn erbyn cefndir lle mae dibyniaeth y DU ar wledydd eraill am fwyd bron â dyblu ers canol yr 1980au, gyda 40% o fwyd y DU yn cael ei fewnforio erbyn hyn, o’i gymharu â thua 22% tua chanol yr 1980au. Mae hyn yn cynnwys bwydydd cynhenid y gellir eu cynhyrchu yn y DU, gyda’r ddibyniaeth bum gwaith yn fwy, yn codi o 5% i 25% yn ystod yr un cyfnod – rhywbeth a all waethygu wrth i Lywodraeth y DU ffurfio cytundebau masnach rhyddfrydol peryglus â gwledydd allforio mawr fel Awstralia a Seland Newydd.
Ond mae datganoli’n darparu cyfle i greu atebion lleol a phenodol i Gymru i’r problemau hyn, ar ffurf y Bil Amaethyddiaeth sy’n cael ei ystyried gan y Senedd ar hyn o bryd - Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf i amaethyddiaeth yng Nghymru ers i’r DU ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ac wrth wraidd yr atebion hyn y mae’r ffermydd teuluol hynny sy’n asgwrn cefn cynhyrchu bwyd, economïau a diwylliant gwledig, ac amgylcheddau a thirweddau gwerthfawr.
Clywodd y rhai a ymunodd â’r Undeb am frecwast yng Nghaerdydd hefyd bod UAC o’r farn bod yn rhaid i ddarn mor bwysig ac arloesol o ddeddfwriaeth fynd ati’n benodol i sicrhau hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio a’r economi wledig yng Nghymru – nid drwy naratif neu ddamwain yn unig, ond drwy ddyluniad.
Byddai hyn yn sicrhau bod y Bil yn wirioneddol holistaidd - hynny yw, yn sicrhau cydbwysedd rhwng y colofnau a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae pawb yn gwybod beth sy’n digwydd pan dynnir un o goesau stôl deircoes.
Ni all y broses o wneud penderfyniadau ar reoli tir a chreu canlyniadau amgylcheddol i Gymru ddigwydd ar wahân i fusnesau ffermio yng Nghymru, y teuluoedd sy’n gweithio’r tir, na’r marchnadoedd lleol a byd-eang maent yn cynhyrchu ar eu cyfer.
Mae ffermwyr yn rheoli dros 80% o dir Cymru ar gyfer eu bywoliaeth, ac felly rhaid i’r Bil a’r polisïau ategol dilynol sicrhau eu bod yn fusnesau economaidd cydnerth, all fuddsoddi a chyflawni’r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy hyn, gan hefyd greu effeithiau lluosydd economaidd ar gyfer yr economi wledig ehangach, yn ogystal â’r gadwyn cyflenwi bwyd, ar ben eu cyfraniad unigryw i gymunedau gwledig a’r Gymraeg.
Cafodd Aelodau’r Senedd eu hatgoffa hefyd o rôl arall hanfodol y mae ffermydd teuluol Cymru’n ei chwarae fwyfwy, sef cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Does dim angen atgoffa unrhyw un o’r argyfwng sicrwydd ynni sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil gweithredoedd Putin. Mae’r genedl wedi manteisio ar ffracsiwn yn unig o botensial ffermydd teuluol yng Nghymru i fynd i’r afael â hyn, gan leihau eu hôl troed carbon eu hunain a pharhau i fwydo trigolion y wlad ar yr un pryd.
Mae peryglon difrifol taflu’n gofidiau i’r gwynt pan ddaw hi’n fater o ddiogelwch bwyd ac ynni yno i bawb eu gweld, felly pa bynnag lwybr y mae San Steffan yn penderfynu’i ddilyn, rhaid i’r gweinyddiaethau datganoledig yma yng Nghymru fabwysiadu agwedd holistaidd tuag eu cyfrifoldeb dros y boblogaeth leol, genedlaethol a byd-eang.