Gwobrau Farmers Weekly 2023

Mae’r ceisiadau a’r enwebiadau ar agor erbyn hyn ar gyfer gwobrau Farmers Weekly 2023.  Mae 15 o gategorïau a’r dyddiad cau yw 30ain Ebrill 2023.  Gallwch wneud cais eich hunan neu enwebu rhywun arall o fewn y diwydiant amaeth.

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflawniad ffermwyr ledled y DU.

Y 15 categori ar gyfer 2023 yw:-

  • Myfyriwr Amaethyddol y Flwyddyn
  • Cynghorydd Âr y Flwyddyn
  • Ffermwyr Âr y Flwyddyn
  • Ffermwr Cig Eidion y Flwyddyn
  • Contractwr y Flwyddyn
  • Ffermwr Llaeth y Flwyddyn
  • Ffermwr Arallgyfeirio y Flwyddyn
  • Rheolwr Fferm y Flwyddyn
  • Rheolwr Glaswelltir y Flwyddyn
  • Cynghorydd Da Byw y Flwyddyn
  • Ffermwr Cymysg y Flwyddyn
  • Ffermwr Moch y Flwyddyn
  • Ffermwr Dofednod y Flwyddyn
  • Ffermwr Defaid y Flwyddyn
  • Ffermwr Ifanc y Flwyddyn

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais neu enwebiad ewch i: https://www.fwi.co.uk/ms/events/farmers-weekly-awards/