Cynhaliodd swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfodydd adeiladol ag Aelodau’r Senedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan dynnu sylw at bryderon allweddol ynghylch Bil Amaethyddiaeth (Cymru), Cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, yn ogystal ag amryw o faterion iechyd anifeiliaid, gan gynnwys TB Buchol.
Yn ymuno ag UAC ar gyfer y trafodaethau roedd Jane Dodds AS, Peter Fox AS, James Evans AS, Cefin Campbell AS a Mabon ap Gwynfor AS, yn ogystal â Sam Kurtz AS.
Mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth Cymru, amlinellodd swyddogion yr Undeb 8 o welliannau allweddol sy’n hanfodol, ym marn UAC, i sicrhau bod sefydlogrwydd economaidd a dyfodol teuluoedd ffermio yng Nghymru’n cael eu gwarchod o fewn cynlluniau cymorth y dyfodol, er enghraifft, ehangu’r diffiniad o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) i gydnabod rhyng-gysylltedd a rhyngddbyniaeth rheoli tir â bywoliaethau fferm, ac ychwanegu 5ed Amcan SLM, gyda’r nod penodol o sicrhau cynaliadwyedd economaidd teuluoedd ffermio yng Nghymru, darparu bwyd diogel, olrheiniadwy, a gwarchod diogelwch y cyflenwad bwyd byd-eang.
Hefyd, amlinellodd swyddogion yr Undeb bryderon yr aelodau ynghylch cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ategu, ymhlith pryderon eraill, bod y Gweithredu Sylfaenol sy’n gofyn bod pob ffermwr yn y cynllun ag o leiaf 10% o orchudd coed ar y fferm yn creu heriau sylweddol a rhwystrau logistaidd rhag cymryd rhan yn y cynllun, yn enwedig i denantiaid, cominwyr, a rhai sydd â chyfran fawr o’u ffermydd yn dir cynefin, tir arfordirol, tir sydd uwchlaw llinell y coed, neu dir hynod o gynhyrchiol. Pwysleisiodd yr Undeb fod ymrwymo i newid defnydd tir yn barhaol o fewn hinsawdd economaidd ansicr yn anodd.
Wrth drafod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, clywodd Aelodau’r Senedd a ymunodd ag UAC fod ffermwyr ledled Cymru’n croesawu’r seibiant a ddarperir gan y cyhoeddiad diweddaraf, a’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun trwyddedu arfaethedig, ond bod yr Undeb yn ddig iawn o hyd bod disgwyl i ffermwyr Cymru adeiladu storfeydd slyri newydd erbyn Awst 2024 gyda chymorth cyllid ychwanegol, dim ond i Lywodraeth Cymru ystyried technolegau amgen a'u rhoi ar waith o bosib yn 2025, all yna ddiddymu’r angen am gyfnodau cau, a gosod capasiti storfeydd slyri yn y dyfodol.
Hefyd pwysleisiodd UAC fod lefelau straen a gorbryder ymhlith ffermwyr yn parhau i fod yn uchel, o ystyried materion iechyd anifeiliaid parhaus megis TB Buchol, y clafr a BVD.