Bu swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru’n cynnal trafodaethau ar y camau di-oed sy’n rhaid i Lywodraeth y DU eu cymryd i leddfu’r pwysau ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr, tra’n hyrwyddo diogelwch bwyd ac ynni mewn ffyrdd sy’n lleihau’r perygl o fod yn agored i argyfyngau byd-eang yn y dyfodol, pan wnaethon nhw gwrdd ag Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, Dr James Davies AS yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.
Gan atgyfnerthu Cynllun 5 Pwynt UAC, amlinellodd y swyddogion y prif ofynion o ran ail-osod y polisi masnach ryngwladol, adfer perthnasoedd â’n cymdogion agosaf, ysbrydoli chwyldro ynni adnewyddadwy, ail-lunio polisïau amaethyddol a gwledig domestig, a darparu cymorth i ddiwydiannau hanfodol.
Dim ond yn ddiweddar, cadarnhaodd y cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Amaethyddiaeth, George Eustice, fod cytundebau masnach ag Awstralia a Seland Newydd wedi ildio mynediad enfawr i farchnadoedd bwyd y DU yn gyfnewid am fuddiannau pitw i economi’r DU. Mae UAC wedi gwybod ac wedi gwneud hi’n glir erioed bod y cytundebau hyn yn bradychu ffermwyr Cymru a diogelwch bwyd y DU, a hynny’n gyfnewid am fawr ddim, a phwysleisiodd yr Undeb yn ystod y cyfarfod â Dr Davies y dylai Swyddfa Cymru archwilio’n drylwyr a gwrthwynebu unrhyw gytundebau tebyg yn y dyfodol.
Pwysleisiodd swyddogion yr Undeb yr angen hefyd i adfer perthynas y DU â’r UE a gwledydd cyfagos er mwyn gwarchod allforion a diogelwch cyflenwad bwyd y DU.
Croesawodd UAC agwedd fwy diplomyddol ac adeiladol y Prif Weinidog newydd tuag at ddelio â’r UE o’i gymharu â’i ddau ragflaenydd, ac mae’n gobeithio y bydd mabwysiadu agwedd fwy aeddfed yn caniatáu i’r DU adeiladu ar y cytundeb masnach cul iawn sy’n bodoli ar hyn o bryd, i gael gwared â’r rhwystrau sy’n wynebu allforion o Gymru.
Cafodd Dr Davies wybod hefyd pa mor bwysig oedd hi i adfer gwell cymorth ar gyfer ynni adnewyddadwy ar ffermydd, er mwyn helpu i daclo’r newid hinsawdd a hyrwyddo diogelwch ynni’r DU.
Mae Cymru’n gwneud defnydd o ffracsiwn yn unig o’r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd, ac mae’r twf a welwyd dros y ddegawd ddiwethaf wedi arafu’n sylweddol yn sgil diddymu’r tariffau cyflenwi trydan. Mae angen i Lywodraeth y DU droi’r sefyllfa hon wyneb i waered, gan wneud buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ar ffermydd yn ymarferol unwaith eto, o ystyried yr argyfwng ynni parhaus, ac mae angen i bob Llywodraeth gael gwared â’r rhwystrau rhag cynhyrchu ynni ar ffermydd.