UAC yn trafod pwysigrwydd marchnadoedd allforio gyda Gweinidog DEFRA yn y Ffair Aeaf

Bu swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru’n trafod pwysigrwydd cynnal a sefydlu marchnadoedd allforio ffafriol ar gyfer cig coch Cymru gyda Gweinidog DEFRA, Mark Spencer, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, gan bwysleisio bod yn rhaid adfer perthnasoedd da â’n cymdogion agosaf.

Roedd UAC yn croesawu’r cyfle i drafod pwysigrwydd marchnadoedd allforio a chytundebau masnach ffafriol â’r Gweinidog.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod wrthi’n creu cytundebau masnach y mae ei ffigurau ei hun yn dangos fydd yn tanseilio diogelwch cyflenwad bwyd y DU. Dangoswyd bod y cytundebau hyn yn dod â buddiannau pitw i economi’r DU, tra’n gwneud marchnadoedd y DU yn agored i gynnyrch nad yw’n cwrdd â’r un safonau. Mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio ar bolisïau masnach sy’n rhoi diogelwch cyflenwad bwyd a chynhyrchwyr y DU ar dop ei hagenda.

Hefyd, tynnodd UAC sylw at bryderon ei haelodau y byddai Bil Protocol Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU yn torri’r Gyfraith Ryngwladol ac yn bygwth ei pherthynas â marchnadoedd UE hanfodol a sicrhawyd drwy’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Dylai Llywodraeth y DU anelu at gael llawer gwerth perthynas waith â’r UE er mwyn gwarchod allforion bwyd a diogelwch cyflenwad bwyd y DU, a rhoi’r gorau i’r gweithredu unochrog mewn perthynas â Phrotocol Gogledd Iwerddon.