Mae’r amser wedi dod am chwyldro ynni adnewyddadwy – dyna oedd neges allweddol swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru pan gwrddon nhw ag AS Brycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones, yn y Ffair Aeaf.
Clywodd yr AS fod ein dibyniaeth ar farchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang wedi dod i’r amlwg yn sgil effeithiau’r pandemig a rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.
Mae cynhyrchu ynni gan ddefnyddio tanwydd ffosil yn ail i fusnes yn unig yn nhermau cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, ac yn ail gyfrannwr uchaf yn y DU, ar ôl trafnidiaeth.
Clywodd yr AS hefyd fod 50% o’r trydan a ddefnyddiwyd yng Nghymru yn 2018 yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy, cynnydd o’i gymharu ag 19% yn 2014 a 48% yn 2017. Pwysleisiodd swyddogion yr Undeb fod cyfran enfawr o’r ynni hwnnw wedi’i gynhyrchu ar dir ffermio yng Nghymru, ond bod y twf dros y blynyddoedd diwethaf wedi arafu’n sylweddol wrth i’r Llywodraeth gael gwared â chymhellion i ffermwyr.
Rhaid i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynyddu eu hymdrechion i adfer twf yn y diwydiant, drwy gynnig cymhelliad i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd, heb amharu ar dir amaethyddol a’r gallu i gynhyrchu bwyd. Mae diddymu’r rhyddhad ardrethi busnes ar brosiectau ynni dŵr wedi bod yn rhwystr sylweddol rhag buddsoddi, tra bod rhwystrau eraill, gan gynnwys dynodi tirweddau - megis y ddeiseb i ddynodi Mynyddoedd Cambria’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - a rheoliadau anghymesur, yn parhau i atal datblygiadau.
Yn ogystal, defnyddiodd UAC y cyfle i dynnu sylw at y ffaith bod gwledydd ledled yr UE wedi cyhoeddi pecynnau cymorth gwerth cannoedd o filiynau i gynorthwyo busnesau sy’n dioddef o ganlyniad i’r cynnydd enfawr mewn prisiau, ac i annog a hybu’r diwydiant cynhyrchu bwyd.
Mae’r cymorth a ddarperir yn y DU o’i gymharu â gwledydd eraill yr UE yn bitw iawn, ac mae’n creu risg o leihau’r gallu i gynhyrchu nwyddau allweddol megis bwyd, gan olygu ein bod yn fwy agored i’r prinder byd-eang presennol.
Clywodd yr AS hefyd, serch bod chwyddiant yn y DU oddeutu 11 y cant, fod y gyfradd chwyddiant yn nhermau cost cynhyrchu bwyd i ffermwyr bron deirgwaith hynny, gan fygwth dyfodol busnesau o’r fath.
Rhaid i Lywodraethau’r DU weithredu nawr i roi ffermwyr y DU ar lefel gyfartal â ffermwyr yr UE, sy’n derbyn cyllid i wneud iawn am gynnydd o’r fath yng nghostau cynhyrchu bwyd. Mae chwyddiant o ran costau ynni a mewnbynnau allweddol eraill ar hyd cadwyni cyflenwi bwyd y DU yn rhoi pwysau ychwanegol ar fusnesau sy’n hanfodol yn nhermau cynhyrchu bwyd, ac mae gwledydd ledled yr UE yn darparu cymorth ariannol a chymhelliannau i fusnesau megis proseswyr bwyd a gweithgynhyrchwyr gwrtaith.
Er bod UAC yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Medi, yn amlinellu cynlluniau i helpu i leihau biliau ynni busnesau hyd at fis Mawrth y flwyddyn nesaf, mi fydd yn cymryd blynyddoedd i fusnesau adfer yn llwyr o’r argyfwng ynni parhaus a’r cyfraddau chwyddiant presennol.