Mae cynigion corff rheoleiddio amgylcheddol Cymru’n annerbyniol yn erbyn cefnlen yr argyfwng costau byw, medd arweinwyr cymuned ffermio Cymru, y CLA, NFU Cymru ac UAC.
Mae asiantaeth Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn bwriadu cyflwyno cynnydd dramatig i gost trwyddedau ar gyfer cyflawni gwaith angenrheidiol ac anorfod ar ffermydd Cymru. Er enghraifft, mae costau gwasgaru dip defaid ar y tir ar fin codi i 20 gwaith y gost bresennol ar gyfer cais newydd.
Mae’r tri sefydliad yn galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ail-edrych ar y cynigion yng nghyd-destun ansicrwydd nas gwelwyd erioed o’r blaen yn y byd amaeth yng Nghymru.
Mae ymgynghoriad 12 wythnos Cyfoeth Naturiol Cymru am gael barn ar ei gynigion ar gyfer ffioedd trwyddedu newydd dan gyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru dros reoleiddio’r diwydiant, rheoli gwastraff, ansawdd dŵr ac adnoddau, a chydymffurfio o ran cronfeydd dŵr.
Mae’r ffioedd ar gyfer costau trwyddedau i gael gwared â dip defaid sy’n atal clefydau, echdynnu dŵr, trafod sgil-gynhyrchion anorfod, a chydymffurfio. Does gan ffermwyr fawr o ddewis ynghylch rheoli’r rhain, does fawr o hyblygrwydd yn nulliau rheoleiddio’r asiantaeth, a dim proses apêl.
Bydd y tri chorff sy’n cynrychioli ffermwyr a busnesau gwledig Cymru’n archwilio asesiadau effaith Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn dadlau, lle bwriedir cyflwyno newidiadau dramatig, bod angen iddynt gael eu cyflwyno’n raddol a bod angen mwy o hyblygrwydd ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Mae angen cymorth ar fusnesau sy’n cael trafferth ymdopi â chwyddiant costau mewnbwn.
Mae ffioedd Cyfoeth Naturiol Cymru’n gostau gorfodol y mae’n rhaid i ffermwyr eu talu i barhau i gynhyrchu ein bwyd. Un ffordd neu’r llall, rhaid i’r gost gael ei hamsugno yn y gadwyn gyflenwi, gan effeithio ar y gallu i gystadlu a chan agor y drws i fewnforion cost isel.
Mae’r gymuned ffermio’n deall bod angen i gostau adlewyrchu chwyddiant. Fodd bynnag, mae’n hynod o anghyfrifol i un o asiantaethau Llywodraeth Cymru roi busnesau mewn perygl, heb roi ystyriaeth deilwng i arbedion cost ac effeithlonrwydd yn eu prosesau i leihau costau.
Mae UAC, y CLA ac NFU Cymru yn gwneud hi’n glir bod ffermwyr eisoes wedi’u bwrw gan gostau uchel tanwydd, gwrtaith a phorthiant. Wrth i’r argyfwng costau byw barhau mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru ail-ystyried ar frys y cynigion a gyflwynwyd, sy’n ychwanegu mwy fyth o gostau i’r diwydiant cynhyrchu bwyd yng Nghymru.