Y tarfu ar allforio cig o’r DU i’r UE wedi’i ohirio am 12 mis
Mae rheolau newydd ar gyfer allforion i’r UE a fyddai wedi tarfu’n sylweddol ar ddiwydiant cig y DU wedi’u gohirio am 12 mis yn dilyn sylwadau a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU gan gyrff masnachu cig blaenllaw.
Mi fyddai’r rheolau, a oedd i ddod i rym ar 13eg Rhagfyr 2022 wedi golygu, dan ofyniad yr UE bod ffermydd tarddiad yn cael ymweliad milfeddygol rheolaidd, bod rheolau newydd y DU yn golygu na fyddai ffermwyr yn gallu hunan-ardystio bellach, gan olygu bod tystiolaeth megis aelodaeth o gynllun sicrwydd fferm cydnabyddedig neu ddatganiad milfeddygol dilys yn ofynnol, serch bod datganiadau ffermwyr yn cael eu derbyn gan yr UE.
Disgwylir y bydd y rheolau’n dod i rym nawr ar 13eg Rhagfyr 2023.
Cig Oen PGI Cymru‘n cael sgorau da am ansawdd a breuder
Mae prosiect sy’n ymchwilio i sut mae ffactorau ar y fferm a ffactorau prosesu’n effeithio ar ansawdd bwyta cig oen wedi canfod bod Cig Oen PGI Cymru sgorio’n dda o ran gwerth maethol a breuder.
Roedd anifeiliaid a fagwyd ar laswellt, ac ar wreiddlysiau a bresych, yn cynhyrchu cig gyda lefelau Omega-3 o 24mg fesul 100 gram, o’i gymharu â chyfartaledd o 89mg ar gyfer ŵyn a fagwyd ar ddwysfwyd. Roedd profion breuder yn dangos bod holl gig oen Cymru’n cymharu’n dda â meincnodau’r diwydiant. Cafwyd cig eithriadol o frau o samplau a gymerwyd yn Awst a Thachwedd o ŵyn a gynhyrchwyd pan oedd y tymor cynhyrchu ar ei anterth yng Nghymru.
Rhyddhawyd canlyniadau’r Prosiect Ansawdd Cig Oen fel rhan o Raglen Datblygu Cig Coch ehangach Hybu Cig Cymru.
Ymchwil yn dangos bod Brexit wedi ychwanegu £210 at filiau bwyd pob aelwyd
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economeg Llundain wedi dadansoddi data ar gynnyrch bwyd yn y DU i ganfod sut mae cost mân reolau Brexit wedi effeithio ar aelwydydd.
Yn ôl yr ymchwil, oherwydd mân reolau a gwaith papur ychwanegol, roedd pris mewnforion bwyd o’r UE wedi codi 3% y flwyddyn dros gyfnod o ddwy flynedd, yn ystod 2020 a 2021, gan ychwanegu £6 biliwn at gost mewnforion bwyd, o’i gymharu â’r fasnach rydd cyn Brexit.
Mae hyn yn cyfateb i £210 fesul aelwyd yn y DU, gyda’r cynnydd yn y rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar gyfer masnachu â’r UE dros y ddwy flynedd yn cyfrannu at y chwyddiant uchaf a welwyd yn y DU ers deugain mlynedd.
Astudiaeth yn dangos cyfran bitw ffermwyr o’r elw o fwyd
Mae elusen fwyd wedi galw ar weinidogion i orfodi archfarchnadoedd i gyhoeddi mwy o wybodaeth am eu cadwyni cyflenwi, ynghyd â chodau ymarfer cadwyni cyflenwi sy’n gosod ymrwymiad cyfreithiol ar archfarchnadoedd, i’w gorfodi i roi pris teg i ffermwyr am eu cynnyrch.
Cynhaliodd Sustain arolwg o bum cynnyrch bwyd, a chanfod bod elw’r ffermwr yn nesaf peth i ddim. Un enghraifft oedd pecyn o bedwar byrgyr cig eidion, lle’r oedd y ffermwr yn gwneud llai na cheiniog o elw, tra bod y manwerthwr yn gwneud deg gwaith cymaint â hynny.
Canfu’r arolwg bod bwyd yn golygu costau cynhyrchu a gorbenion uchel, ac nad oedd yr elw’n cael ei rannu’n deg ar hyd y gadwyn gyflenwi. Dangosodd yr adroddiad hefyd na fyddai talu mwy i’r ffermwr yn golygu o angenrheidrwydd bod y defnyddiwr yn gorfod talu mwy.