Codwyd pryderon sylweddol mewn cyfarfod o Brif Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru ynghylch cwtogi cyllideb Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, a cholledion pellach posib os na fydd cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei wario.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ddiweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ar 13 Rhagfyr, yn dangos gwahaniaethau sylweddol ym meintiau a dyraniadau’r gyllideb ers cyhoeddi’r gyllideb ddangosol ym mis Mawrth.
Serch bod Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU wedi arwain at £666 miliwn o gyllid pellach i Lywodraeth Cymru yn 2023-24, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cwtogi ei chyllideb materion gwledig o bron i naw miliwn o bunnoedd.
Mae’r ffaith bod y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer materion gwledig wedi’i chwtogi’n sylweddol yn y gyllideb ddrafft, tra bod cyllideb gyffredinol Cymru wedi cynyddu yn nhermau enwol, yn bryder mawr i aelodau UAC.
Mae’r Undeb yn llwyr gydnabod bod y cynnydd yng ngrant bloc Cymru’n cynrychioli gostyngiad cyllid yn nhermau real yn sgil y gyfradd chwyddiant uwch – ond mae’r gyfradd chwyddiant uwch hefyd yn golygu bod y cwtogi enwol o bron i £9 miliwn ar y gyllideb materion gwledig yn cynrychioli cwtogi hyd yn oed mwy mewn termau real.
Mae’r penderfyniad yn peri pryder mawr o ystyried y gwaith pwysig a wnaed gan adran materion gwledig Llywodraeth Cymru, ar adeg o drawsnewid mawr a phwysau ar ffermwyr a’r cymunedau gwledig a gefnogir ganddynt.
Serch pryderon o’r fath, roedd aelodau Cyngor UAC yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau cyfanswm cyllideb o £238m ar gyfer taliadau uniongyrchol yn 2023 a 2024, gan ategu bod hyn yn gwbl groes i’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae taliadau o’r fath wedi’u cwtogi dros 20% ar gyfartaledd yn 2022, ac yn debygol o gael eu cwtogi ymhellach yn 2023.
Fodd bynnag, dylid nodi bod y £238 miliwn yn cynrychioli gostyngiad sylweddol yn nhermau real i ffermydd Cymru o ystyried y gyfradd chwyddiant bresennol – yn enwedig o ystyried bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y mynegai prisiau ar gyfer mewnbynnau amaethyddol wedi cynyddu 28.3% yn y 12 mis hyd at fis Hydref, ond nad yw’r prisiau ar gât y fferm wedi cynyddu’n agos at y ffigur hwnnw.
Mynegodd aelodau Cyngor UAC eu pryder hefyd, os na fydd cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig wedi’i wario erbyn Mehefin 2023, y bydd yn rhaid i Gymru anfon arian yn ôl i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, ym Medi 2022, roedd 20% o gyllideb Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru – tua £181 miliwn – heb ei wario. Mae £103 miliwn o hwn yn dod o gyllid UE, gan gynnwys £45 miliwn a gymerwyd o daliadau fferm drwy’r drefn Trosglwyddo 15% o Golofn 1 i Golofn 2.
Deellir bod yn rhaid dychwelyd unrhyw gyllid a gafwyd o’r UE sydd heb ei wario erbyn Mehefin 2022, gan gynnwys arian a gymerwyd oddi ar ffermwyr drwy Drosglwyddo 15% o un Golofn i’r llall.
Dywedodd aelodau’r Cyngor ei bod hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod holl gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei wario erbyn y dyddiau cau.
Yn sgil cyflwyno’r lefel uchaf o ‘dreth’ ar daliadau fferm ledled yr UE gyfan yn 2014, sef 15%, i ariannu’r hyn a honnwyd fyddai’n Rhaglen Datblygu Gwledig radical, mi fyddai’n dân ar groen ffermwyr Cymru a Chymru gyfan i golli cyllid yn y pen draw am fod yn rhaid anfon arian yn ôl i’r UE.