i) Arla Foods yn rhybuddio ynghylch costau cynhyrchu cynyddol
Mae Arla Foods, sef cyflenwr mwyaf llaeth a hufen ffres y DU, wedi rhybuddio na all ffermwyr wneud digon i dalu’u costau bellach, gyda rhai’n wynebu cynnydd o tua 35 y cant. Yn ôl Arla, mae cost llaeth yn yr archfarchnadoedd 7 y cant yn is nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl mewn termau real.
Mae prisiau llaeth wedi codi’n ddiweddar i dros 40 ceiniog y litr ym mis Mai, ond mae Kite Consulting wedi dweud y bydd angen i broseswyr ddisgwyl talu’n nes at 50 ceiniog y litr os ydyn nhw am wrthdroi’r gostyngiad yn y lefelau cynhyrchu llaeth.
ii) Gall fod angen i fewnforion bwyd ac amaeth yr UE fodloni safonau’r UE
Mae’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi cyhoeddi cynlluniau’n ddiweddar i sicrhau bod yr holl fwyd a chynnyrch amaethyddol a fewnforir i’r UE yn cwrdd â’u safonau iechyd ac amgylcheddol.
Mae ffermwyr a ranshwyr yn yr Unol Daleithiau, a nifer o gynhyrchwyr ac allforwyr Ewropeaidd wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau. Mi all allforwyr Ewropeaidd wynebu ardrethi dial os bydd Sefydliad Masnach y Byd yn canfod nad yw safonau gorfodol yr UE yn cydymffurfio â chytundebau masnach.
iii) Rhybuddion am brinder wyau yn sgil costau cynhyrchu
Mae Cyngor Diwydiant Wyau Prydain (BEIC) wedi rhybuddio y gall fod prinder wyau yn sgil y cynnydd enfawr mewn costau cynhyrchu.
Mae costau bwyd ieir sy’n dodwy yn £400 y dunnell erbyn hyn, i fyny tua 50% dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae costau cludiant wedi codi tua 30%, pris llafur wedi codi tua 7%, pris pelenni wedi codi 15%, a chostau cyfanwerthol nwy gan gyflenwyr wedi cynyddu 250% ers dechrau 2021.
Mae Prif Weithredwr 2 Sisters Food Group, Ronald Kers hefyd wedi rhybuddio bod yna fygythiad mawr i ddiogelwch cyflenwad bwyd y DU o ganlyniad i’r rhyfel yn Wcráin.