Bydd NFWI-Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru, CFfI Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA) yn cynnal digwyddiad cysylltedd digidol ar-lein ar 28 Ebrill am 12 canol dydd. Nod y digwyddiad hwn yw darparu trosolwg o’r wybodaeth, cefnogaeth a chyllid sydd ar gael i helpu cartrefi a chymunedau i wella eu cysylltedd. Mae hyn mewn ymateb i ganfyddiadau arolwg a gynhaliwyd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a ganfu nad oedd yna fawr o ymwybyddiaeth o’r cyllid a’r cymorth sydd ar gael.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Adam Butcher, Tîm Seilwaith Digidol Llywodraeth Cymru;
Mike Lewis, Swyddog Band Eang Cymunedol Cyngor Sir Powys; a
David Phillips, Cyfarwyddwr, Prosiect Bang Eang Cymuned Michaelston-y-Fedw.
Yn dilyn y cyflwyniadau, bydd cyfle ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.
Cofrestrwch yma i fynychu’r digwyddiad.