Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yr argymhellion a ddeilliodd o’r Adolygiad Adar Gwyllt, yn benodol mewn perthynas â thrwyddedau cyffredinol. Penderfynwyd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru barhau i roi trwyddedau cyffredinol i reoli adar gwyllt at rai dibenion, mewn rhai amgylchiadau, a lle nad oes unrhyw atebion boddhaol eraill.
Bydd y penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd yn golygu newidiadau i drwyddedau o 1af Gorffennaf ac mae’r rhain yn cynnwys:
- Fel arfer, ni fydd rhywogaethau y mae eu poblogaethau yng Nghymru yn dirywio'n sylweddol, yn cael eu hystyried yn addas i'w rhestru ar drwyddedau cyffredinol.
- Ni fydd unrhyw rywogaethau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at gwmpas trwyddedau cyffredinol ar hyn o bryd.
- Bydd y drwydded gyffredinol er mwyn atal difrod difrifol i gnydau a da byw yn nodi pa rywogaethau o adar y gellir eu rheoli i atal pa fathau o ddifrod.
- Bydd y drwydded gyffredinol at ddiben gwarchod adar gwyllt yn caniatáu rheoli brain tyddyn yn unig, gwarchod rhestr o rywogaethau ar restrau coch neu oren Adar o Bryder Cadwraethol (BoCC) sy'n bridio yng Nghymru ac sy'n cael eu hystyried yn agored i ysglyfaethu gan frain tyddyn.
- Bydd trwydded gyffredinol yn parhau i gael ei rhoi i reoli colomennod gwyllt ar gyfer diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd. Bydd yn dal yn angenrheidiol gwneud cais am drwyddedau penodol ar gyfer rheoli unrhyw rywogaeth o wylanod i’r diben hwn.
- Bydd defnyddio trapiau cawell i reoli adar gwyllt yn ddibynnol ar nifer o amodau a chyngor newydd ynghylch lles anifeiliaid a lleihau'r risg fod adar eraill yn cael eu dal yn sgil hyn.
- Bydd nifer y Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle gellir defnyddio trwyddedau cyffredinol yn cynyddu.