Cynllun |
Crynodeb |
Dyddiadau Ffenestri |
Ffenestr Cais am Hyfforddiant Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr gais bresennol am hyfforddiant Cyswllt Ffermio yn cau ar Ddydd Gwener 27ain Mai.
Am restr lawn o gyrsiau a/neu gymorth i ymgeisio, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Ceir mwy o wybodaeth yma. |
Cau 27ain Mai 2022 |
Cynllun Datblygu Garddwriaeth |
Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Mae’r gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr gais hon yn £1.5 miliwn. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-llyfryn-rheolau https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-garddwriaeth-gan-defnyddio-rpw-ar-lein-i-wneud-cais |
Cau 27ain Mai 2022 |
Cynllun Cynllunio Creu Coetir |
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd. Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd. Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos. Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb). |
Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022 |
Grantiau Bach - Effeithlonrwydd |
Cynllun i gefnogi buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm. Mae hwn yn debyg i’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd. Mae’r isafswm grant wedi’i ostwng i £1,000 a’r uchafswm yw £12,000. Ni fydd cymryd rhan eisoes yn y Grant Busnes i Ffermydd yn effeithio ar gymhwysedd. Mae uchafswm cyfraniad o 40% ar gael yn erbyn costau go iawn a anfonebwyd. Cafodd prisiau eu diweddaru a’u cymeradwyo ar ddiwedd Mawrth. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar RPW Ar-lein maes o law. Mae gan y ffenestr hon gyllideb ddangosol o £5m |
18fed Mai – 29ain Mehefin 2022 |
Grantiau Bach - Amgylchedd |
Cynllun i gefnogi amrywiaeth eang o ymyriadau rheoli tir a darparu cymorth cyfalaf ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar y fferm, i wella ansawdd adnoddau naturiol Cymru. Mae hwn yn cyfateb i’r cynllun Grantiau Bach Glastir cynt. Mae’n gynllun annibynnol sy’n darparu uchafswm o £7,500 fesul ffenestr ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf. Bydd y rownd hon yn ymwneud â’r thema Dŵr. Ni fydd parseli tir sydd eisoes dan gytundebau Glastir yn gymwys. Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £3m. |
23ain Mai – 1af Gorffennaf 2022 |
Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth |
Cynllun i gefnogi rhai sy’n sefydlu mentrau garddwriaeth masnachol newydd. Y grant sydd ar gael i bob ymgeisydd yw £3,000, a ddyfarnir ar ffurf cyfalaf gweithio. Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £300,000. |
25ain Mai – 29ain Mehefin 2022 |
Grantiau Bach – Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd |
Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu.. Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref. Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref. Cadarnhad a manylion pellach i ddilyn. |
Agor ym Mehefin 2022 |
Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm. |
Agor ym Mehefin 2022 |
Y Cynllun Troi’n Organig |
Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig. Ceir un ffenestr mynegi diddordeb yn unig. Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd. Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol. Rhaid cynnwys Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol. |
Agor yng Ngorffennaf 2022 |
Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau |
Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm. |
Agor yng Ngorffennaf 2022 |
Creu (Plannu) Coetir |
Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru. |
Agor yn Awst 2022 |
Cyfoeth Naturiol Cymru – Cyllid Grant ar gyfer Mawndiroedd |
Mae grantiau datblygu cyfalaf o rhwng £10,000 a £30,000 ar gael i adfer cynefinoedd a gollwyd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru.
|
4ydd Ebrill – 4ydd Gorffennaf 2022 |