Mae UAC wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i gynlluniau a allai gosbi ceidwaid gwartheg am ‘fethu â rhoi sylw’ i wybodaeth TB wrth brynu stoc, yn ei hymateb i ymgynghoriad diweddaraf Rhaglen Dileu TB Adnewyddedig.Llywodraeth Cymru.
Mi allai’r cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg a geir o fewn yr ymgynghoriad olygu bod yna ‘oblygiadau’ i geidwaid gwartheg sy’n prynu stoc heb ystyried y ‘risgiau a amlygir’ yn yr wybodaeth TB a ddarperir yn y man gwerthu.
Er bod yr ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer gwybodaeth TB orfodol yn y man gwerthu, mae’n aneglur o hyd pa feini prawf fyddai’n cael eu defnyddio i bennu risg cymharol y stoc. Mae UAC yn annog gofal yn hyn o beth, oherwydd gall cynigion Masnachu Seiliedig ar Risg sydd heb eu datbygu’n iawn wneud hi’n hynod o anodd i brynwyr ffurfio barn wybodus wrth brynu stoc.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, mae UAC wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grŵp Masnachu Seiliedig ar Risg, i sicrhau nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn y man gwerthu’n rhy fras i fod yn ddefnyddiol, neu’n rhy gymhleth i’w ddefnyddio.
Er nad yw UAC yn erbyn Masnachu Seiliedig ar Risg fel y cyfryw, bydd unrhyw gamau sydd, i bob pwrpas, yn cosbi rhai mathau o bryniant, yn golygu’n anorfod na fydd modd gwerthu rhai o wartheg Cymru, ac mae UAC yn cwestiynu a fyddai Llywodraeth Cymru’n barod i ddigolledu’r ceidwaid gwartheg hynny a gafodd ‘marc du’ wedi’i gymeradwyo gan y Llywodraeth yn erbyn eu stoc.
Mae’n hanfodol bod y diwydiant yn gallu cymryd rhan lawn yn y trafodaethau Masnachu Seiliedig ar Risg cyn rhoi cynigion ar waith allai fod â goblygiadau sylweddol i werthwyr a phrynwyr gwartheg fel ei gilydd.