DEFRA’n cynyddu taliadau i ffermwyr yr ucheldir
Mae DEFRA wedi cyhoeddi cynnydd yn y cyfraddau tâl ar gyfer ffermwyr yr ucheldir dan y cynllun Rheoli Tir yn Gynaliadwy (ELM) newydd.
Hyd yn hyn, mae ffermwyr yr ucheldir wedi’u talu ar gyfradd is na ffermwyr yr iseldir, ac mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd y taliadau’n gyfartal bellach i ffermwyr yr ucheldir a’r iseldir, o fewn pedwar o opsiynau’r cynllun.
Mae’r newid yn golygu y bydd taliadau ar gyfer mewnbynnau isel ar laswelltir ardaloedd ucheldir yn codi o £98/Ha i £151/Ha, a thaliadau ar gyfer creu coed pori ucheldir yn codi o £333/Ha i £544/Ha.
Cyrff cig Seland Newydd yn croesau Cytundeb Masnach Rydd y DU-Seland Newydd
Gyda chytundeb masnach rydd y DU-Seland Newydd yn dod i rym ar 31ain Mai 2023 mae cyrff cig coch yn Seland Newydd wedi sôn am y cyfleoedd sydd ar agor bellach i’w ffermwyr.
Mae Beef & Lamb New Zealand wedi dweud ei fod yn gyfle go iawn ar gyfer allforion cig eidion Seland Newydd o fewn marchnad draddodiadol, ei fod yn creu llwybrau twf newydd ar gyfer y sector cig coch, a bod y cytundeb yn newyddion da i ffermwyr defaid a chig eidion, cymunedau gwledig ac economi Seland Newydd.
Dywedodd y grŵp Alliance, sy’n cynrychioli 5000 o ffermwyr, fod y Cytundeb Masnach Rydd yn gam pwysig ymlaen o ran agor y drws i ffermwyr Seland Newydd, ei fod yn gyfle i dyfu, buddsoddi ac arallgyfeirio, a bod y ffigurau cynnar yn dangos bod disgwyl i fewnforion y DU o Seland Newydd dyfu o £1 biliwn.
Dan y Cytundeb Masnach Rydd bydd y DU yn diddymu tariffau ar 97% o’r cynnyrch a fewnforir, ac yn diddymu’r tariffau ar fewnforion cig eidion a chig defaid fesul cam, nes bod dim tollau o gwbl o 2038 ymlaen.
Yr UE yn cyhoeddi €430 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer amaethyddiaeth
Mae pecyn cymorth gwerth €330 miliwn wedi’i gynnig ar gyfer pob un o’r 22 o aelod-wladwriaethau ar gyfer ffermwyr sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau hinsoddol andwyol, costau mewnbwn uchel, a materion marchnata a masnachu amrywiol. Mae’r €100 miliwn a gyhoeddwyd yn flaenorol ar gyfer ffermwyr ym Mwlgaria, Hwngari, Gwlad Pwyl, Rwmania a Slofacia sydd wedi’u heffeithio gan fewnforion o Wcráin hefyd wedi’i gymeradwyo.
Mi all y 22 o aelod-wladwriaethau hefyd ychwanegu at y cymorth ariannol gyda hyd at 200% o gyllid cenedlaethol. Bydd pob aelod-wladwriaeth yn dosbarthu’r cymorth yn uniongyrchol erbyn 31ain Rhagfyr i ffermwyr sydd wedi’u heffeithio gan yr aflonyddu ar y farchnad yn sgil prisiau mewnbwn uchel, y gostyngiad ym mhrisiau cynnyrch, a digwyddiadau hinsoddol diweddar.
Mae’r comisiwn hefyd yn bwriadu cynnig rhagdaliadau uwch o 70% o daliadau uniongyrchol, ac 85% o daliadau datblygu gwledig ganol mis Hydref, yn ogystal â chaniatáu i aelod-wladwriaethau ddiwygio’u cynlluniau strategol i ailgyfeirio cyllid PAC er mwyn buddsoddi i ail-sefydlu’r potensial i gynhyrchu yn sgil digwyddiadau hinsoddol andwyol.