Rheolau newydd ar Werthiant Amoniwm Nitrad

Mae Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC) yn rhybuddio ffermwyr y bydd gofyn cael cerdyn adnabod â llun i brynu amoniwm nitrad sy’n cynnwys dros 16% o nitrogen o 1af Hydref 2023 ymlaen.

Mae newidiadau i’r gyfraith wedi ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr o ragsylweddion ffrwydrol a gwenwynau, ac mae hyn yn berthnasol i gyfansoddion, blendiau a chymysgeddau megis gwrtaith NPK sy’n cynnwys amoniwm nitrad sydd uwchlaw’r trothwy nitrogen.

Gall y cerdyn adnabod â llun a ddarperir fod ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio i fusnes y fferm sydd wedi’i awdurdodi i brynu deunydd o’r fath.

Rhaid i’r sawl sy’n gwerthu gael y canlynol gan y cwsmer busnes

  • enw a chyfeiriad y cwsmer busnes. Os nad yw’r cwsmer busnes yn unigolyn, dylid cofnodi enw unigolyn sydd wedi’i awdurdodi ar ran y cwsmer busnes;
  • cerdyn adnabod â llun ar gyfer y cwsmer busnes neu, os nad yw’r cwsmer busnes yn unigolyn, o’r unigolyn sydd wrthi’n prynu;
  • datganiad am natur masnach, busnes neu broffesiwn y cwsmer busnes, neu swyddogaeth gyhoeddus y cwsmer busnes; a
  • rhif cofrestru TAW y cwsmer busnes, os oes gan y cwsmer busnes rif o’r fath.