Mynd i’r Afael â Ffliw Adar Hynod Bathogenaidd yng Nghymru – Gweminarau

Mae Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol yn Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal cyfres o weminarau ar Ffliw Adar Hynod Bathogenaidd (HPAI) yng Nghymru.

Bydd y gyfres o weminarau yn:

  • Darparu gwybodaeth am y sefyllfa genedlaethol, gan gynnwys y diweddaraf am lwybrau trosglwyddo’r feirws HPAI.
  • Darparu gwybodaeth am fesurau diogelu hanfodol y dylai holl geidwaid adar a dofednod eu mabwysiadu, gan fyfyrio ar y bylchau bioddiogelwch mwyaf cyffredin a’r gwersi a ddysgwyd.
  • Darparu gwybodaeth am y mesurau allweddol y mae Llywodraeth Cymru’n eu mabwysiadu i reoli’r clefyd, gan gynnwys y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), rhestrau gwirio hunanasesiadau bioddiogelwch, parthau rheoli’r clefyd, a mesurau cadw dan do gorfodol.

Mae’r gweminarau’n agored i bawb. Yn ystod y sesiynau, ni fydd y rhai sy’n eu mynychu’n cael siarad, ond mi fydd yna gyfle i ofyn cwestiynau drwy’r cyfleuster sgwrsio.

Bydd y gweminarau’n cael eu cyflwyno yn Saesneg. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol a gellir gofyn cwestiynau yn Gymraeg neu Saesneg.

Dyddiadau Gweminarau a Dolenni Cofrestru:-