Mae dau gynllun Creu Coetir ar agor ar hyn o bryd a byddant yn cau ar 15fed Medi 2023. Y ddau gynllun yw’r Grant Creu Coetir a Grantiau Bach – Creu Coetir.
Gwnaed newidiadau i’r ddau gynllun ar gyfer y ffenestr hon, gan gynnwys :
- Cyfraddau talu uwch i gyd-fynd â chostau 2023
- Asesiad gorfodol cyn gwneud cais gan dîm Rhaglen Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer pob ymgeisydd
- Arolygon yn seiliedig ar argymhellion cyn gwneud cais
- Taliad ar gyfer ffensio ceirw
Er mwyn gallu ymgeisio am y Grant Creu Coetir dylech
- wneud cais i’r Cynllun Cynllunio i Greu Coetir, a
- derbyn cadarnhad o gynllun wedi’i wirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn 4 Medi 2023
(Ar gyfer Grantiau Bach – Creu Coetir ceir cwestiynau ar-lein i gynhyrchu cynllun cynllunio creu coetir)
Mae yna lyfryn byr – grantiau creu coetir: canllawiau sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r newidiadau. Mae’r llyfryn yn amlinellu’r grantiau sydd ar gael i greu coetir ac mae’n darparu dolenni cyswllt at wybodaeth bellach. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynhyrchu taflen gymharu sy’n dangos y cyfraddau talu uwch a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Bydd ffenestri pellach ar gyfer 2024 yn cael eu cyhoeddi maes o law.