UAC yn cydnabod ymroddiad i amaethyddiaeth gyda gwobrau yn Sioe Frenhinol Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cydnabod dau unigolyn am eu gwasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Yn derbyn y wobr allanol am wasanaeth i amaethyddiaeth oedd yr Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, Dr Prysor Williams. Cyflwynwyd gwobr fewnol UAC am wasanaethau i amaethyddiaeth i Margaret Shepherd, a wasanaethodd yr Undeb am dros ddeugain mlynedd.

Mae Dr Prysor Williams yn ffermio yn Nyffryn Conwy a graddiodd ym Mhrifysgol Bangor mewn Gwyddorau Amgylcheddol. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwilio i nifer o bynciau sy’n pontio’r bwlch rhwng amaethyddiaeth â’r amgylchedd, gan gynnwys y defnydd o adnoddau organig megis tail buarth a slyri, i enwi ond ychydig.