Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn is ar gyfer cig coch Cymru na gweddill y DU
Mae astudiaeth wedi dangos bod allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr mentrau cig coch yng Nghymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ledled y DU.
Datgelodd Cyswllt Cymru, a gynhaliodd yr astudiaeth, fod y canlyniadau’n dangos bod allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr cig eidion 17% yn is na meincnod yr ucheldir a 5.7% yn is na meincnod yr iseldir.
Roedd mentrau defaid hefyd yn is, gyda mentrau defaid yr ucheldir 9.3% yn is, a mentrau defaid yr iseldir 2.9% yn is na’r meincnod.
Yr Almaen am gynyddu taliadau cynlluniau eco
Ers i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) newydd gael ei gyflwyno ar 1af Ionawr eleni, mae nifer ffermwyr yr Almaen sydd wedi ymuno â’r cynlluniau eco newydd, sy’n anelu at gymell arferion ffermio cynaliadwy, wedi bod yn is o lawer na’r disgwyl.
Mae gwladwriaethau ffederal yr Almaen wedi cytuno ym mis Gorffennaf ar gynigion i wella’r catalog o eco-gynlluniau gyda thaliadau premiwm uwch.
Bydd y cynigion a gyflwynwyd gan y gwladwriaethau ffederal bellach yn gosod y sail ar gyfer trafodaethau gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar addasiadau posib i gynllun strategol PAC yr Almaen.
Allforion bwyd a diod yn uwch nag erioed
Cynyddodd allforion y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o £157 miliwn rhwng 2021 a 2022, sef cynnydd o 24.5%.
Mae hwn yn gynnydd canrannol uwch na’r DU gyfan, a dyfodd o 21.6%.
Cig a chynnyrch cig oedd y categori gwerth uchaf, ar £265 miliwn, sef cynnydd o 42% ers 2021, ac yna grawnfwyd a pharatoadau grawnfwyd, a gododd 16% i £160 miliwn.