Roedd y camau nesaf ar gyfer llywodraethu Rhaglen Dileu TB Cymru ar frig yr agenda pan gwrddodd staff a swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn Sioe Frenhinol Cymru.
Cafodd y swyddogion drafodaeth gadarnhaol gyda’r Gweinidog am y rhan y bydd y diwydiant yn ei chwarae o fewn polisïau rheoli TB yn y dyfodol yng Nghymru. Ail-bwysleisiodd UAC nifer o’r pryderon a amlinellwyd ganddi yn ei hymateb i’r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer dileu TB yng Nghymru, ac roedd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ail-ddatgan ei hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ar y rhaglen reoli yn y dyfodol.
Mi fyddai UAC yn croesawu’n frwd y cyfle i gymryd rhan ymhob agwedd o’r polisi TB yng Nghymru yn y dyfodol, er mwyn gweithio ar y cyd i wireddu dyhead y naill ochr a’r llall i waredu Cymru o TB.
Fel rhan o’r drafodaeth, pwysleisiodd yr undeb hefyd y pryderon am y gwaharddiad ar fwydo llaeth heb ei basteureiddio i loi ar ffermydd gyda Statws Heb TB Swyddogol Wedi’i Ddiddymu, ac ail-bwysleisiodd y diffyg tystiolaeth epidemiolegol dros y cynnig hwn.
Mae UAC eisoes wedi croesawu’r bwriad i sefydlu Grŵp Ymgynghori Technegol TB yng Nghymru ac mae o’r farn y dylai’r mater hwn gael ei archwilio gan y grŵp hwn o arbenigwyr pan gaiff ei sefydlu, i geisio pennu pa mor briodol yw’r gofyniad rheoliadol arfaethedig hwn.
Mae’n hanfodol bod cynlluniau i reoli a dileu TB yn y dyfodol yn rhoi ystyriaeth gyfartal i wyddoniaeth TB, lles gwartheg, lles ffermwyr, a sefyllfa ariannol ffermydd er mwyn sicrhau rhaglen gynaliadwy a phragmatig i reoli TB yng Nghymru.