Cymorthfeydd Un i Un Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio’n cynnig cymorthfeydd awr o hyd, un ai’n ddigidol neu dros y ffôn, i ddarparu arweiniad penodol i fusnesau fferm. 

Mae’r cymorthfeydd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau o dan Busnes, Da Byw a Thir.

Mae’r meini prawf ar gyfer y cymorthfeydd a’r clinigau un i un fel a ganlyn:

  • pob busnes ffermio sydd ag

o  o leiaf 3ha o dir cofrestredig yng Nghymru

o  Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN)

o  Rhif Daliad (CPH) Cymreig

  • newydd-ddyfodiaid sy'n dymuno cyrraedd y gofynion 3ha o fewn cyfnod 3 blynedd
  • deiliaid coedwig a systemau ffermio arbenigol neu niche neu weithgareddau o dan y trothwy 3ha hyd at leiafswm o 0.5ha fesul achos unigol

Am restr o’r pynciau sydd ar gael a sut i wneud cais ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/cymorthfeydd-un-i-un