Profi tymheredd bêls gwair am ddim

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACAGC) wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y tanau ysgubor ar draws ardal y gwasanaeth, yn dilyn cyfnod o dywydd sych ym Mai a Mehefin, a maint y gwair sydd wedi’i gynaeafu.

Mewn ymdrech i leihau nifer y tanau ar ffermydd, ac i godi ymwybyddiaeth o’r holl wasanaethau rhad ac am ddim a gynigir gan GTACAGC ar gyfer y gymuned ffermio, maent wedi creu erthygl i dynnu sylw at y Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls Gwair sydd ar gael AM DDIM.


Gall ffermwyr sy’n poeni am dymheredd eu bêls gwair gysylltu â GTACAGC i ofyn am wirio tymheredd a lleithder y bêls gwair am ddim, gan ddefnyddio offer arbenigol. 

Yn dibynnu ar y darlleniadau, bydd GTACAGC yn mynd ati i weithio gyda’r ffermwr i greu cynllun i reoli’r perygl o ymlosgiad digymell. I archebu ymweliad am ddim, ffoniwch 01268 909 404.

Os ydy’r bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.

Am fwy o wybodaeth a chyngor ewch i: https://www.tancgc.gov.uk/cym/ystafell-newyddion/posts/2023/mehefin/nodyn-atgoffa-diogelwch-t%C3%A2n-fferm/